Clwstwr achosion Covid-19 mewn dau ysbyty yng Ngwynedd
- Cyhoeddwyd
Mae clwstwr o achosion coronafeirws wedi dod i'r amlwg o fewn dau ysbyty yng Ngwynedd.
Ddydd Iau, dywedodd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr fod yna 34 o gleifion gyda Covid-19 rhwng Ysbyty Gwynedd, Bangor ac Ysbyty Eryri yng Nghaernarfon.
Roedd 14 o'r rheiny wedi cael yr haint tra yn yr ysbyty.
Dywedodd Gill Harris, cyfarwyddwr nyrsio a bydwreigiaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: "Mae rhaglen o brofi staff a chleifion yn digwydd, a'n blaenoriaeth yw cael yr achosion yma o dan reolaeth cyn gynted â phosib.
"Mae'r cleifion sydd wedi eu heffeithio yn cael eu cadw ar wahân ac mae wardiau ar gau ar hyn o bryd i gleifion newydd ac i ymwelwyr."
Ym mis Chwefror bu'n rhaid i Ysbyty Gwynedd ohirio mwyafrif y llawdriniaethau yno wedi clwstwr yn cynnwys 49 o gleifion.
Ychwanegodd Ms Harris: "Mae hyn yn amserol wrth ein hatgoffa nad yw'r feirws wedi mynd, ac fe fyddwn yn annog unrhyw un sydd heb dderbyn brechiad i drefnu apwyntiad neu i fynd i'n clinigau cerdded-i-mewn."
'Amhosib atal yn llwyr'
Mewn cyfweliad brynhawn Gwener, dywedodd y prif weinidog Mark Drakeford: "Gydol y pandemig pan mae achosion yn cynyddu, a waeth pa mor galed y mae'r GIG yn gweithio, mae'n amhosib atal ymlediad y feirws yn llwyr mewn lleoliadau bregus.
"Rydym wedi dysgu llawer dros y 18 mis diwethaf, ac mae'r GIG wedi datblygu mesurau sy'n cael eu gweithredu ar unwaith i leihau effaith y feirws pan mae'n ymddangos mewn lleoliad fel ysbyty.
"Mae ysbytai yn llawn pobl fregus, ac ry'n ni'n gwybod fod yr afiechyd creulon yma yn effeithio'n waeth ar bobl felly, ac fe fydd y dyddiau nesaf yma'n anodd i'r lleoliadau yna yn y gogledd."
'Covid ddim wedi mynd'
Dywedodd llefarydd y Ceidwadwr Cymreig: "Mae Llafur Cymru yn dweud yn gyson ei fod wedi dysgu gwersi o ledaeniad y feirws mewn ysbytai.
"Ond blwyddyn a hanner yn ddiweddarach mae gennym ni glystyrau o achosion eto, sydd wedi arwain at chwarter o holl farwolaethau Covid yng Nghymru.
"Dylai'r elfen yma o'r ymateb Covid yng Nghymru nawr gael ei ymchwilio mewn ymchwiliad cyhoeddus ac annibynnol mae Llafur yn ceisio osgoi."
Dywedodd AS Plaid Cymru dros Arfon, Sian Gwenllian, bod yr achosion "yn ein hatgoffa nad yw Covid wedi mynd, a bod angen parhau i fod yn ofalus".
"Mae'r achosion yn peri pryder o ystyried yr ôl-gatalog sydd ym mhob ysbyty, a'r pwysau cynyddol a achosir gan y nifer uchel o ymwelwyr i ardaloedd twristiaeth fel gogledd orllewin Cymru.
"Ledled Cymru, mae achosion ar gynnydd ac rydym yn dechrau gweld cynnydd cyfatebol mewn trosglwyddiad ysbyty.
"Mae'n hanfodol bwysig bod Llywodraeth Cymru yn parhau i sicrhau bod cymaint o bobl â phosibl yn derbyn y brechlyn."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Gorffennaf 2021
- Cyhoeddwyd6 Gorffennaf 2021
- Cyhoeddwyd25 Chwefror 2021