Y Gynghrair Genedlaethol: Eastleigh 0-2 Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
WrecsamFfynhonnell y llun, Getty Images

Llwyddodd Wrecsam i ennill eu gêm gyntaf y tymor hwn gyda buddugoliaeth gyfforddus yn Eastleigh brynhawn Sadwrn.

Aeth y Cymry ar y blaen wedi ychydig dros 10 munud o chwarae, gyda Jake Hyde yn rhwydo yn dilyn pas i'w lwybr gan Paul Mullin.

Ychwanegodd Hyde ail gôl er mwyn dyblu mantais yr ymwelwyr cyn hanner amser wrth iddo sgorio gyda pheniad o groesiad Jordan Davies.

Roedd hi'n ail hanner llawer mwy tawel o ran digwyddiadau o bwys, ond roedd Wrecsam eisoes wedi gwneud digon i selio'r fuddugoliaeth.