Gêm gartref gyntaf Wrecsam o'r tymor yn gyfartal

  • Cyhoeddwyd
Paul MullinFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Paul Mullin ar ôl sgorio'r gôl a ddaeth â Wrecsam yn gyfartal

Roedd y Cae Ras yn llawn nos Lun i weld gêm gartref gyntaf Wrecsam o'r tymor yn y Bencampwriaeth a orffennodd yn gyfartal 1-1 yn erbyn Notts County.

Roedd Wrecsam yn haeddu o leiaf pwynt o'r gêm, a ddaeth yn sgil peniad Paul Mullin yn fuan wedi dechrau'r ail hanner.

Yn groes i rediad y chwarae, yr ymwelwyr oedd y tîm cyntaf i sgorio - ym munud olaf yr hanner cyntaf, gyda Kyle Wootton yn sgorio'i drydedd gôl mewn tair gêm.

Ond roedd yna siom i gefnogwyr oedd wedi gobeithio cael eu golwg gyntaf ar berchnogion enwog newydd y clwb yn y cnawd.

Nid yw’r post yma ar X yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar X.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges X gan Rob McElhenney

Caniatáu cynnwys X?

Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges X gan Rob McElhenney

Doedd yr actorion Ryan Reynolds na Rob McElhenney ddim yno i wylio'r tîm nos Lun, er bod McElhenney wedi bod yn ffilmio cyfres deledu yn Nulyn dros y penwythnos.

Cyhoeddodd neges Gymraeg - "Croeso adref!" - ar ei gyfrif Twitter ychydig oriau cyn y gic gyntaf.

Mae'r canlyniad yn golygu bod Wrecsam yn wythfed safle'r tabl gyda phum pwynt - un safle'n is na Notts County oherwydd gwahaniaeth goliau.