Cofnodi wyth marwolaeth Covid a 2,317 achos newydd

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
vaccineFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae pump o farwolaethau yn rhagor yn gysylltiedig â Covid-19 wedi'u cofnodi yng Nghymru dros y 24 awr hyd at 09:00 fore Gwener.

Mae'n dod â chyfanswm y marwolaethau - yn ôl dull Iechyd Cyhoeddus Cymru o gofnodi - i 5,734.

Cadarnhawyd 2,317 o achosion newydd o'r feirws hefyd, gan ddod â'r cyfanswm ers dechrau'r pandemig i 306,060.

Mae'r gyfradd achosion fesul 100,000 o bobl dros y saith diwrnod diwethaf wedi codi'n sylweddol i 557.8.