Olew a phetrol yn llygru nant ar ôl tân mewn ffatri

  • Cyhoeddwyd
TânFfynhonnell y llun, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae pryderon am amgylchedd yr ardal yn dilyn y tân brynhawn Mercher

Mae olew a phetrol wedi llygru nant a lladd pysgod ar ôl tân mewn ffatri ailgylchu.

Fe gydiodd y tân yn Ystâd Ddiwydiannol Penallta, Caerffili am 15:13 ddydd Mercher.

Dywedodd y diffoddwyr tân bod tua 200 tunnell o blastig, eitemau trydanol, batris, silindrau nwy a pheiriannau wedi mynd ar dân.

Mae'r broses lanhau eisoes ar waith gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), Ymateb Arllwysiadau Cymru a'r gwasanaeth tân.

Ffynhonnell y llun, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd CNC fod "llawer iawn" o olew a phetrol wedi mynd i mewn i nant ger y safle

Dywedodd CNC fod "llawer iawn" o olew a phetrol wedi mynd i mewn i nant ger y safle a bod nifer o bysgod marw wedi'u gweld.

Rhybuddiwyd pobl i osgoi dod i gysylltiad â dŵr yn Nant Cylla, un o isafonydd Afon Rhymni, yn ogystal â chyrsiau dŵr cyfagos tra bo'r gwaith glanhau'n cael ei gwblhau.

Dywedodd CNC fod mesurau wedi'u cymryd i amsugno'r olew a phetrol, ac mae argaeau wedi'u hadeiladu mewn nentydd cyfagos.

Mae pibellau hefyd wedi'u gosod i adael i ddŵr glân fynd trwodd.

'Hanfodol' gwarchod yr amgylchedd

Dywedodd David Letellier o CNC ei bod yn "hanfodol" bod preswylwyr a'r amgylchedd yn cael eu gwarchod.

"Byddwn yn parhau i fonitro'r effaith ar ansawdd aer a chyrsiau dŵr lleol dros y dyddiau nesaf," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Mae petrol ac olew wedi llygru nant cyfagos gan ladd pysgod

Dywedodd rheolwr gorsaf gwasanaeth tân de Cymru, Mark Kift, fod y criwiau wedi gweithio'n "ddiflino" i fynd i'r afael â'r tân a'i atal rhag lledaenu.

"Mae'r tân bellach wedi'i ddiffodd ac mae'r diffoddwyr wedi gadael y lleoliad," meddai Mr Kift.

"Mae'r broses lanhau bellach ar y gweill a hoffwn atgoffa trigolion lleol fod y ffatri ailgylchu yn parhau ar gau ar yr adeg hon, ac i ddilyn unrhyw ganllawiau gan CNC ac Iechyd Cyhoeddus Cymru ynghylch â'r ardal gyfagos."

Dywedodd llefarydd ar ran y gwasanaeth tân: "Oherwydd maint y tân, parhaodd y deunyddiau oedd ar dân i fudlosgi ac roedd yn rhaid i griwiau weithio mewn partneriaeth i benderfynu ar gamau gweithredu."

Pynciau cysylltiedig