Pump yn yr ysbyty ar ôl gollyngiad cemegol mewn ffatri

  • Cyhoeddwyd
2 Sisters factory sign, Llangefni

Mae pump o bobl wedi cael eu cludo i'r ysbyty yn dilyn adroddiadau o ollyngiad cemegol mewn ffatri prosesu cig ar Ynys Môn.

Cafodd tri ambiwlans a dau gerbyd ymateb cyflym eu galw i ffatri 2 Sisters yn Llangefni am 09:14 fore Llun.

Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Ambiwlans Cymru bod rhai angen "sylw meddygol" ar ôl iddynt "fod mewn cysylltiad â nwy neu gemegyn gwenwynig".

Cafodd pedwar claf eu trin yn y fan a'r lle a chludwyd pump arall i Ysbyty Gwynedd i gael triniaeth bellach.

Gwagio'r ffatri

Dywedodd 2 Sisters bod amonia wedi gollwng yn y ffatri a bod y rheiny a gafodd eu heffeithio wedi eu cludo i'r ysbyty fel mesur rhagofalus.

"Mae diogelu ein cydweithwyr yn brif flaenoriaeth; cafodd y ffatri ei gwagio yn unol â phrotocolau brys ac fe ddaeth y frigâd dân a'r gwasanaeth ambiwlans yn gyflym," meddai swyddog o'r cwmni wrth ITV Cymru.

"Fe wnaeth y frigâd dân gynghori pryd roedd yn ddiogel i ni fynd yn ôl i mewn i'r adeilad, ac maen nhw bellach wedi gadael y safle."

Dywedodd y cwmni fod y ffatri bellach yn gweithredu "fel arfer".

Pynciau cysylltiedig