Mam gollodd ei mab drwy hunanladdiad 'wedi bod trwy uffern a nôl'

Llun o Caio Wyn Ap Rhys (chwith) a'i fam Rhian ar draeth.Ffynhonnell y llun, Rhian Wyn
Disgrifiad o’r llun,

Y diweddar Caio Wyn Ap Rhys a'i fam Rhian sy'n dweud bod angen chwalu'r stigma am hunanladdiad

  • Cyhoeddwyd

Mae mam a gollodd ei mab drwy hunanladdiad bum mlynedd yn ôl yn dweud ei bod wedi bod "trwy uffern a nôl ond dal yn sefyll, a dal eisiau codi ymwybyddiaeth".

Ar Ddiwrnod Atal Hunanladdiad y Byd mae Rhian Wyn o Bontrhydfendigaid yn awyddus i chwalu'r stigma sydd ynghlwm ag hunanladdiad.

Fe gollodd ei mab, Caio Wyn, yn 2020 a dywedodd bod e'n brofiad "uffernol o anodd i fynd trwyddo ac os allwn ni safio un person neu un teulu rhag mynd trwy be fi wedi mae hwnna'n meddwl lot i fi".

Ddydd Mercher mae canolfan iechyd meddwl newydd yn agor yng Nghaerdydd ac mae Rhian yn credu y gall fod "yn help mawr".

Llun o'r Tywysog WilliamFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Tywysog William yn ymweld â chanolfan iechyd meddwl newydd sy'n agor yng Nghaerdydd

Dywed Rhian bod angen newid y naratif ynghylch hunanladdiad: "mae angen i ni addysgu pobl," meddai.

Ychwanegodd bod angen "datblygu sgyrsie agored a thrugarog am hunanladdiad".

Mae gormod "yn meddwl ni ffili siarad am e achos ni'n rhoi syniade'n pennau pobl" meddai cyn pwysleisio bod hynny'n "hollol anghywir – mae just angen addysgu a ffindo mas y basics o sut i siarad da rhywun".

Cafodd ganolfan iechyd meddwl, The Jac Lewis Foundation, ei hagor ddydd Mercher yn Stadiwm Principality yng Nghaerdydd.

Yn ystod y dydd mae'r Tywysog William yn ymweld â hi.

Cafodd y ganolfan ei sefydlu er cof am chwaraewr yn academi tîm pêl-droed dinas Abertawe a fu farw drwy hunanladdiad yn 2019.

Mae'r sefydliad, sydd wedi'i leoli yn Rhydaman yn Sir Gaerfyrddin, mewn partneriaeth ag Undeb Rygbi Cymru a The Royal Foundation yn cynnig cwnsela a chostau trafnidiaeth i'r rhai y mae angen cymorth arnynt.

7,000 yn marw bob blwyddyn

Mae mwy na 7,000 o bobl yn marw drwy hunanladdiad bob blwyddyn yn y Deyrnas Unedig - mae 19 o bobl yn marw bob dydd.

Diben yr hwb yw cynnig cymorth i gannoedd o bobl a all fod yn agored i niwed, gan weithredu fel man diogel i bobl ofyn am gefnogaeth.

Bydd hefyd yn cynnig cymorth ymarferol i bobl o bob oedran, gan gynnwys ar faterion yn ymwneud â thai, cyllid, hyfforddiant a materion cyfreithiol.

Fe ddechreuodd Jac chwarae pêl-droed yn bump oed ac yna ymunodd ag academi clwb pêl-droed dinas Abertawe tan iddo gael ei ryddhau yn 14 oed.

Ymunodd yna â Llanelli am ychydig cyn dychwelyd i'w glwb cartref yn Rhydaman.

Dywedodd ei dad, Jesse, mai yr hyn oedd Jac yn angerddol amdano oedd pêl-droed a'i fod "bob amser am chwarae ar y lefel uchaf".

"Rwy'n credu ei fod yn teimlo ychydig fel ei fod wedi methu gan nad oedd wedi cyflawni'r hyn roedd am ei gyflawni ym myd pêl-droed".

Esboniodd bod ffactorau eraill i'w hystyried hefyd gan gynnwys y defnydd o gyffuriau yn hwyrach yn ei fywyd.

Dywedodd Rhian ei bod yn cefnogi The Jac Lewis Foundation 100% ond bod dal llawer i'w wneud.

"Fi'n gwbod pwy mor anodd yw e" ac mae'n awyddus i barhau i frwydro i godi ymwybyddiaeth am y diwrnod ac am y pwnc.

Os yw cynnwys yr erthygl hon wedi effeithio arnoch, mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael ar wefan Action Line y BBC.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.