Dod o hyd i weddillion corff dyn ar goll ers chwe blynedd

Aeth Jordan Moray ar goll o'i gartref chwe blynedd yn ôl
- Cyhoeddwyd
Mae gweddillion corff dyn aeth ar goll chwe blynedd yn ôl wedi'u canfod ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Diflannodd Jordan Moray, oedd yn 33 oed ar y pryd, o'i gartref yng Nghwm-bach ger Aberdâr yn Rhondda Cynon Taf ym mis Gorffennaf 2019.
Dywedodd Heddlu De Cymru eu bod wedi cael gwybod am weddillion corff ger Cronfa Ddŵr Llwyn-Onn ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ar 29 Awst.
Mae teulu Jordan wedi cael gwybod ac maen nhw wedi gofyn am breifatrwydd.
Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol, fe roddodd brawd Jordan Moray deyrnged iddo, gan ddweud fod ei galon "ar goll" hebddo, ond y gall y teulu ei roi i orffwys nawr.

Mae'r heddlu wedi cadarnhau mai gweddillion corff Jordan Moray sydd wedi'u canfod, ac na fydd ei farwolaeth yn cael ei thrin fel un amheus.
Fe wnaeth yr heddlu a'i deulu sawl apêl i ddod o hyd iddo dros y blynyddoedd.
Cafodd un apêl ei lansio ar 24 Gorffennaf eleni gan ei fam, chwe blynedd ers iddo ddiflannu.
Dywedodd hi ar y pryd bod pob dydd yn "boenus" ond ei bod hi'n glynu i'r gobaith y byddai'n cerdded trwy'r drws eto un diwrnod.
'Fy nghalon ar goll hebddat ti'
Dywedodd brawd Jordan, Josh, yn ei deyrnged ei fod wedi colli ei "ffrind gorau".
"Mae o wedi bod yn golled fawr yn fy mywyd i ac mi fydd o bob amser," meddai.
"Caru ti Jordan Moray, alla i ddim aros i dy gyfarfod di eto, frawd mawr, mae 'nghalon i ar goll hebddat ti," meddai.