Siôn Tomos Owen yw Bardd Plant Cymru ar gyfer 2025-2027

Siôn Tomos OwenFfynhonnell y llun, Jon Pountney
Disgrifiad o’r llun,

Mae Bardd Plant Cymru yn cael ei benodi gan baneli o arbenigwyr ym meysydd llenyddiaeth ac addysg plant, dan ofal Llenyddiaeth Cymru

  • Cyhoeddwyd

Y cyflwynydd, y darlunydd a'r awdur o Dreorci, Siôn Tomos Owen yw Bardd Plant Cymru ar gyfer 2025-2027.

Cafodd y cyhoeddiad ei wneud gan Lenyddiaeth Cymru mewn digwyddiad yn Llyfrgell Maesteg, Pen-y-bont ar Ogwr ddydd Mercher.

Mae Siôn Tomos Owen yn olynu Nia Morais yn y rôl, tra bod Nicola Davies yn camu i esgidiau Alex Wharton fel Children's Laureate Wales.

Dywedodd Mr Tomos Owen ei fod "am fagu'r creadigrwydd sydd ym mhob plentyn i greu".

Disgrifiad,

Dywedodd Siôn Tomos Owen fod cael ei enwi'n Fardd Plant Cymru yn teimlo fel "anrheg"

Ers sefydlu rôl Bardd Plant Cymru yn 2000, mae 18 bardd wedi ymgymryd â'r swydd.

Y nod, yn ôl Llenyddiaeth Cymru, yw tanio dychymyg ac ysbrydoli plant Cymru drwy lenyddiaeth, ehangu mynediad plant a phobl ifanc at lenyddiaeth, cynyddu mwynhad plant o lenyddiaeth a chyfrannu at well llesiant meddyliol ymysg y genhedlaeth iau.

Yn y digwyddiad cyhoeddi ddydd Mercher fe ddarllenodd Bardd Plant Cymru a'r Children's Laureate Wales newydd eu cerddi cyntaf.

Fe gyflwynodd Nia Morais ac Alex Wharton gerddi cyfarch a geiriau o gyngor i'w holynwyr hefyd.

Nicola DaviesFfynhonnell y llun, Jon Pountney
Disgrifiad o’r llun,

Sefydlwyd cynllun Children's Laureate Wales yn 2019, a Nicola Davies fydd y pedwerydd berson i ymgymryd â'r rôl

Mae Siôn Tomos Owen yn gweithio fel artist llawrydd creadigol yn darlunio, paentio murluniau a chynnal gweithdai creadigol.

Roedd yn un o gyflwynwr cyfresi 'Cynefin' a 'Pobol y Rhondda' ac mae wedi cyfrannu at amryw o raglenni eraill ar S4C dros y blynyddoedd.

Cyrhaeddodd ei gasgliad gyntaf o farddoniaeth, Pethau Sy'n Digwydd (Barddas) restr fer Llyfr y Flwyddyn 2025, a'i gyhoeddiad diweddaraf yw nofel i blant o'r enw Gerwyn Gwrthod a'r Llyfr Does Neb yn Cael ei Ddarllen (Atebol).

Mae ei farddoniaeth a'i straeon hefyd wedi eu cynnwys ar gwricwlwm newydd TGAU Cymraeg a Chymraeg ail iaith.

Wrth drafod ei obeithion ar gyfer y rôl, dywedodd: "Fel Bardd Plant Cymru dwi am fagu'r creadigrwydd sydd ym mhob plentyn i greu, creu cerddi, straeon neu ddarluniadau, y doniol a'r dwys, ac i ddefnyddio'r rhain i feithrin y diddordeb mewn darllen wnaeth gydio ynof fi pan roeddwn i'r un oedran."

'Cynlluniau uchelgeisiol'

Dywedodd Leusa Llewelyn, Cyfarwyddwr Artistig Llenyddiaeth Cymru: "I ddechrau, hoffai Llenyddiaeth Cymru ddiolch o waelod calon i Nia Morais ac Alex Wharton am eu gwaith caled dros ddwy flynedd.

"O gynnal gweithdai yng Ngharchar y Parc, i gynnal gweithdai rhithiol i grwpiau o bobl ifanc o Gymru ac ym Mhalesteina, i gerdded cannoedd o filltiroedd o ysgol i ysgol yn sir Fôn ac ym Mhowys... mae'r ddau wedi rhoi ymdrech arwrol i'w nod o ysbrydoli plant a phobl ifanc i feithrin cariad at eiriau a barddoniaeth.

"Yna estynnwn groeso cynnes iawn i'w holynwyr – Siôn Tomos Owen a Nicola Davies, sydd â chynlluniau uchelgeisiol am brosiectau am fyd natur a bywyd gwyllt, pwysigrwydd darllen ac ysgrifennu, a pharhau i deithio ledled Cymru yn lysgenhadon dros greadigrwydd.

"Mae'n fraint gennym i groesawu'r ddau i deulu Llenyddiaeth Cymru, a dymunwn bob lwc iddynt ar yr antur mawr sydd ar fin dechrau."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.