Carcharu gweithiwr cyngor am ymosodiadau rhyw
- Cyhoeddwyd
Mae gweithiwr cyngor o Sir Gâr wedi'i garcharu am dair blynedd am ymosodiadau rhyw ar dair menyw wahanol.
Roedd Alun Wyn Roberts, 59, yn gweithio fel swyddog cymorth ac adferiad i bobl hŷn gyda phroblemau gweledol pan ddigwyddodd yr ymosodiadau.
Fe ymosododd Roberts, o Lanismel, ar ddwy fenyw gydag amhariadau golwg ac un arall oedd yn wraig i ddyn oedd yn derbyn gofal am broblemau gweledol.
Cafodd Roberts ei ffeindio'n euog o dri chyhuddiad o ymosodiad rhyw yn Llys y Goron Abertawe.
Clywodd y llys fod Roberts wedi cusanu a chyffwrdd â'r menywod wrth ymweld â'u tai fel rhan o'i swydd.
Cafodd datganiadau gan y menywod eu darllen yn ystod yr achos llys.
Dywedodd un dioddefwr fod yn rhaid iddi dderbyn cwnsela ar ôl i'r profiad bron â chwalu ei phriodas.
Cafodd datganiad yr ail ddioddefwr ei ddarllen gan ei merch a ddywedodd bod ei mam nawr yn cymryd meddyginiaeth gwrth-iselder ac yn ail-fyw beth ddigwyddodd yn gyson.
Dywedodd y trydydd dioddefwr fod y profiad wedi'i gadael hi'n teimlo'n fudr a diwerth, yn anghyfforddus o gwmpas dynion ac yn bryderus trwy'r amser.
Wrth ddedfrydu Roberts, dywedodd y barnwr Catherine Roberts: "Roeddech chi mewn safle breintiedig i allu ymweld â'u tai oherwydd roedden nhw'n ymddiried yn eich arbenigaeth a phroffesiynoldeb ac fe wnaethoch chi eu cam-drin."