Gofal babanod angen gwella yn Ysbyty Tywysog Charles

  • Cyhoeddwyd
Ysbyty Tywysog Charles, Merthyr TudfulFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae rhaid i ofal ar gyfer babanod yn Ysbyty Tywysog Charles, Merthyr Tudful "wella'n syth" yn dilyn adolygiad newydd o'r uned newydd-anedig yno.

Cafodd yr adolygiad ei arwain gan ddau arbenigwr gofal newydd-anedig, gan ddarganfod gwendidau yn yr ysbyty sy'n effeithio ar allu meddygon i ddarparu gofal effeithiol a diogel.

Mae'r adroddiad yn cyfeirio at dystiolaeth o deuluoedd a staff yn ogystal ag asesiadau o'r gofal cafodd ei ddarparu i'r babanod mwyaf sâl yn ystod 2020.

Dyw'r adroddiad yma ddim yr un cyntaf i amlygu pryderon ynglŷn â safon gofal mamau a babanod yn ysbytai Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae gofal mamolaeth Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg barod wedi derbyn beirniadaeth gref yn y blynyddoedd diwethaf

O ganlyniad, mae'r ysbyty nawr yn ceisio cyflwyno gwelliannau mewn sawl elfen o'i ofal, megis gwelliannau i ragnodi meddyginiaeth a mwy o gymorth ar gyfer nyrsys.

Mewn datganiad ysgrifenedig, dywedodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan: "Rwy'n deall y pwysau mae staff yn wynebu ar hyn o bryd, a dydy gwasanaethau newydd-anedig ddim yn eithriad - mae'r canlyniadau yma am fod yn anodd ei glywed.

"Mae'n bwysig bod staff yn derbyn cymorth i wneud y gwelliannau yma, ac mae eu lles yn cael ei ystyried yng nghynllun y bwrdd iechyd.

"Er bod y canlyniadau yma yn achosi pryder i deuluoedd sy'n defnyddio'r gwasanaeth, dwi'n gobeithio gallan nhw weld sut mae eu lleisiau nhw yn bwysig ac yn medru arwain at newidiadau," ychwanegodd.

Dywedodd Dirprwy Gyfarwyddwr Meddygol Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg, Sallie Davies: "Rydym yn croesawu'r adborth sydd wedi'i ddarparu gan yr adroddiad yma.

"Gyda chymorth IMSOP a Llywodraeth Cymru, rydym yn parhau i weithio ar welliannau i ein gwasanaethau mamolaeth a newydd-anedig."

'Dan bwysau eithafol'

Cafodd yr ymchwiliad i mewn i wasanaethau newydd-anedig y bwrdd iechyd ei gyhoeddi ym mis Mawrth eleni.

Pwrpas yr adroddiad oedd cyfrannu i waith panel annibynnol (IMSOP) ffurfiwyd er mwyn goruchwylio gwelliannau yng ngofal mamau a babanod yn yr ardal ar ôl i wasanaethau mamolaeth y bwrdd iechyd cael ei rhoi dan 'fesurau arbennig' yn 2019.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae panel yn cael ei arwain gan gyn brif gwnstabl Heddlu Gwent, Mick Giannasi, er mwyn gwella gwasanaethau yn yr ardal.

Yn ôl adolygiad gan ddau goleg brenhinol, roedd menywod a babanod mewn peryg oherwydd prinder staff a methiannau i dynnu sylw at ddigwyddiadau difrifol.

Fe wnaeth yr adolygiad hefyd ddweud bod y gwasanaethau o "dan bwysau eithafol" ac yn "gamweithredol" wrth i fenywod adrodd eu profiadau erchyll wrth dderbyn triniaeth.

Bydd adroddiad o'r diweddaraf am waith y panel sy'n arwain gwelliannau yn cael ei gyhoeddi yn ddiweddarach ym mis Medi.

'Annerbyniol'

Wrth ymateb i'r adroddiad, dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies, bod angen "arweiniad cryfach" wrth ddelio gyda'r gwasanaeth iechyd.

"Mae'r methiant i ddarparu gwasanaethau mamolaeth addas yng Ngwm Taf yn annerbyniol," meddai.

"Mae'r penderfyniad i rwystro gwasanaethau gydag ymgynghorwyr yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg ond wedi cynyddu'r pwysau ar Ysbyty Tywysog Charles.

"Rydym wir angen arweiniad cryfach o'r top er mwyn datrys y broblem yma er mwyn i ddefnyddwyr y gwasanaeth fod yn hyderus yn narpariaeth gofal mamolaeth a newydd-anedig y bwrdd iechyd."