Bwrdd Iechyd Cwm Taf: Cyhoeddi adolygiad annibynnol

  • Cyhoeddwyd
Ysbytai Brenhinol Morgannwg a'r Tywysog Siarl
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r gwasanaethau mamolaeth wedi eu rhannu rhwng Ysbyty Brenhinol Morgannwg ac Ysbyty'r Tywysog Charles

Bydd adolygiad annibynnol o wasanaethau mamolaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn cael ei gyhoeddi fore Mawrth.

Cafodd yr ymchwiliad ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru ar ôl iddi ddod i'r amlwg y gallai prinder staff fod wedi bod yn gyfrifol am ddwsinau o achosion difrifol yno.

Ym mis Hydref y llynedd fe ddaeth hi i'r amlwg fod y bwrdd iechyd yn ymchwilio i ddeall pam na chafodd nifer o achosion difrifol yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg ger Llantrisant ac Ysbyty'r Tywysog Charles ym Merthyr Tudful eu cofnodi'n gywir.

Dywedodd penaethiaid eu bod yn ceisio delio â phrinder eithriadol o staff ar bob lefel - prinder oedd mor ddifrifol fel bu'n rhaid symud bydwragedd o'r gymuned i lenwi bylchau yn yr ysbytai.

Oherwydd difrifoldeb y sefyllfa, cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd Vaughan Gething y byddai Coleg Brenhinol yr Obstetryddion a Gynecolegwyr ynghyd â Choleg Brenhinol y Bydwragedd yn cynnal adolygiad.

Bydd yr ymchwiliad yn ystyried rheolaeth, i ba raddau oedd gwasanaethau mamolaeth yn cydymffurfio â safonau cenedlaethol, a'r broses o gofnodi digwyddiadau lle'r aeth rhywbeth o'i le.

'Disgwyl atebion'

Yn ystod ymweliad â'r unedau mamolaeth ym mis Ionawr, mynnodd y tîm adolygu y dylai gwelliannau gael eu cyflwyno ar unwaith i ddiogelu cleifion.

Roedd y rhain yn cynnwys gwell goruchwyliaeth gan feddygon hŷn, mwy o gefnogaeth i feddygon iau a gwell trefniadau o ran codi pryderon.

Mae'r bwrdd iechyd yn mynnu fod newidiadau sylweddol i batrwm gwasanaethau mamolaeth - gan gynnwys canoli gofal arbenigol ar un safle - eisoes wedi lleddfu'r pwysau.

Er hynny, bydd nifer o deuluoedd heddiw yn disgwyl atebion.

'Teimlo'n sal'

Disgrifiad o’r llun,

Bu farw babi Jessica Western, Macie, ym mis Mawrth 2018

Yn ôl Jessica Western o'r Rhws, Bro Morgannwg, ni wnaeth pobl wrando arni hi pan iddi ddweud mis cyn rhoi geni nad oedd hi'n gallu teimlo'r babi yn symud. Bu farw ei babi Macie ym mis Mawrth 2018.

"Pan gafodd Macie ei geni roedd problem efo'i hanadlu - ond dywedodd y fydwraig ei bod yn iawn, fod pethau'n normal," meddai.

"Ond o ni wedi geni un babi ac o ni'n gwybod nad oedd hyn yn normal."

Dywedodd ei bod nawr eisiau atebion am beth ddigwyddodd.

"Dwi'n teimlo ein bod yn brwydro yn erbyn yr ysbyty er mwyn cael yr atebion ni'n haeddu," meddai.

"Bu farw ein babi a'r cwbl maen nhw'n ddweud yw nad ydyn nhw'n yn gwybod.

"Mae'n gwneud i mi deimlo'n sâl fod nhw dal i ofalu am enedigaethau.

"Dwi ddim yn credu fod nhw'n mynd i ymddiheuro oherwydd dy nhw ddim yn meddwl eu bod ar fai."