Y Raducanu nesaf? Chwaraewr o Gymru 'ymysg y gorau'

  • Cyhoeddwyd
Mimi Xu

Ar ôl buddugoliaeth anhygoel Emma Raducanu ym mhencampwriaeth tennis yr US Open, mae sylw'r byd wedi troi at y seren ifanc.

Mae ei llwyddiant yn sicr o ysbrydoli pobl ar draws y byd - gan gynnwys yng Nghymru, lle mae un chwaraewr ifanc o Abertawe yn aros am gyfle i chwarae yn y pencampwriaethau mawr.

Mae Mimi Xu, o ardal Sgeti, yn 13 mlwydd oed ac eisoes wedi'i disgrifio fel un "ymysg y gorau yn y byd" o ystyried ei hoedran.

Ddeufis yn ôl, llwyddodd Mimi i fod y chwaraewr Cymreig ieuengaf erioed i chwarae yn Junior Wimbledon.

Er iddi golli yn y rownd gyntaf, fe lwyddodd Mimi i ennill set yn erbyn un o ffefrynnau'r bencampwriaeth a oedd yn 18 oed.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Mimi yn un o sêr ifanc tennis yng Nghymru

Dywedodd Mimi bod y twrnamaint yn "brofiad da iawn ac fe wnes i fwynhau pob eiliad ohono fe" ac mae'n bwriadu parhau i wella yn y dyfodol.

"Dwi eisiau dod yn pro ac wedyn chwarae'r holl slams," meddai.

"Mae'n eithaf cyffrous a dwi hefyd yn rili diolchgar i'r cyfleoedd dwi 'di cael gan yr LTA [Cymdeithas Tennis Lawnt], mae 'di bod yn grêt.

"Dwi jyst yn hoffi'r teimlad o gystadlu ar y cwrt... dwi jyst yn caru taro pob pêl i lawr a chystadlu, mae'n wych," ychwanegodd.

Mae Mimi nawr yn fyfyriwr llawn-amser yn Academi Genedlaethol yr LTA yn Loughborough, ond yn teimlo'n falch i gynrychioli Cymru yng nghystadlaethau cenedlaethol a rhyngwladol.

"Dwi'n rili hoffi cynrychioli Cymru," meddai.

"Mae'n dda oherwydd mae'n gyfle neis i fedru cynrychioli fy ngwlad a fy ardal.

"Dwi yn Lloegr nawr ond cefais fy magu yng Nghymru," dywedodd.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Mimi eisoes wedi ennill cystadleuaeth y dyblau dan16 ym Mhencampwriaeth Cenedlaethol Prydeinig Iau 2021

Hyfforddwr Mimi yw Ellinore Lightbody, sydd hefyd o Abertawe, ac sydd wedi chwarae ddwywaith yn Wimbledon gan gyrraedd rhif 181 yn y byd.

Yn ôl Ms Lightbody, mae gan Mimi y potensial i gystadlu yn erbyn y gorau yn y byd.

"Mae gan Mimi gymhelliant enfawr ac yn gorfforol mae hi'n dda iawn...mae ganddi bŵer," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r hyfforddwraig Ellinore Lightbody yn credu y gall Mimi gystadlu ar y llwyfan mawr

"Dechrau mae hi ar hyn o bryd ond mae hi wedi gwneud yn hynod o dda ac wedi rhoi ei hun ymysg y chwaraewyr gorau yn ei hoedran, felly pam lai?

"Dwi'n meddwl bod lot yn ddibynnol ar hunangred, mae lot yn dibynnu ar y gallu i fod yn wydn pan nad yw pethau'n mynd yn dda - mae ganddi'r pethau yma felly croesi bysedd y bydd hi'n 'neud yn dda," ychwanegodd.

Y gobaith yw y bydd Cymru yn dathlu buddugoliaeth tennis hanesyddol tebyg i un Emma Raducanu ymhen rhai blynyddoedd.

Y cyfan mae Mimi am ei wneud yw parhau i gystadlu a mwynhau ei champ.

"Jyst cario 'mlaen, ymarfer yn galed a chawn weld beth sy'n digwydd," meddai.

Pynciau cysylltiedig