'Y Gymraeg yn iaith amlethnig erioed'
- Cyhoeddwyd
Mae'r golygydd a'r hanesydd o Brifysgol Abertawe, Simon Brooks, wedi cyhoeddi llyfr newydd, Hanes Cymry, yn trafod hanes lleiafrifoedd ethnig yn y Gymru Gymraeg. Dyma'r hanes cyntaf o'i fath, ac ynddo mae'n dadlau fod y byd Cymraeg wedi bod yn amlethnig erioed.
Mewn darn arbennig i Cymru Fyw, mae Simon Brooks yn trafod ei ganfyddiadau:
Roedd 'rhaid i fewnfudwyr ddysgu'r Gymraeg'
Weithiau mewn trafodaethau am amlethnigrwydd yng Nghymru, ceir tybiaeth fod amrywiaeth ethnig wedi bod yn nodwedd ar y gymdeithas Saesneg, ond nid felly ar y gymdeithas Gymraeg.
Ond nid oes rhithyn o wirionedd yn perthyn i'r awgrym hwn. Mae'r Gymru Gymraeg wedi bod yn amlethnig erioed, ac mae hyn yn arbennig o wir ers y ddeunawfed ganrif, wrth i fodernrwydd cymdeithasol ac economaidd newid y wlad.
Cymru oedd un o grudau'r chwyldro diwydiannol, a denwyd mewnfudwyr o wledydd eraill Prydain yn ogystal ag o rannau o Ewrop a'r Ymerodraeth Brydeinig.
Roedd y newydd-ddyfodiaid yn symud i wlad a oedd yn Gymraeg iawn o ran ei hiaith, ac hyd yn oed yn yr ardaloedd mwy 'Seisnigaidd', roedd gan y Gymraeg bresenoldeb amlwg a chryf.
Golygai hyn fod rhaid i fewnfudwyr ddysgu'r Gymraeg, a hynny yn aml am nad oedd dewis arall mewn cymdeithas uniaith Gymraeg.
Dywedwyd am Sir Fynwy yn hanner cynta'r bedwaredd ganrif ar bymtheg fod 'cannoedd o'r Lloegrwys ac yn neilltuol eu plant' yn codi'r Gymraeg, a dyna oedd y rhan leiaf Cymraeg o'r de diwydiannol.
Ym Merthyr yn 1848, roedd hi'n anodd dweud y gwahaniaeth rhwng Cymro a Gwyddel, 'for many Irishmen can speak Welsh as well as Welshmen'. A dysgu'r iaith oedd hanes llawer o Iddewon, ynghyd ag Eidalwyr, Almaenwyr, Sbaenwyr ac aelodau o sawl cenedl arall.
Brithir llenyddiaeth a newyddiaduraeth y cyfnod gan gyfeiriadau cynnil at Gymreigrwydd plant mewnfudwyr.
O Sri Lanka i Lanrhaeadr-ym-Mochnant
O ran grwpiau nad oeddynt yn wyn, bu pobl ddu'n rhan o wead cymdeithasol y byd Cymraeg ers y ddeunawfed ganrif.
John Ystumllyn o Eifionydd yw siaradwr Cymraeg du mwyaf adnabyddus y ganrif honno efallai, ond roedd eraill hefyd fel Francis Nuttar, gŵr o India'r Gorllewin a drigai yn Sir Ddinbych. Bu'n 'neidio ac yn canu yn orfoleddus yng nghanol y gynulleidfa' yn ystod y Diwygiad Methodistaidd.
Mae modd olrhain gwreiddiau'r gymuned Asiaidd Gymraeg yn ôl i ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Yn 1900, wele Krishnalal Datta o Mumbai, meddyg yn Ferndale, yn ymrwymo i ddysgu Cymraeg, ac roedd ganddo gyswllt â'r byd Cymraeg wedyn a'r Goleuad yn sôn amdano'n darlithio yn y Bala. A meddyg Cymraeg ei iaith oedd meddyg Llanrhaeadr-ym-Mochnant yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, brodor o Sri Lanka.
Roedd rhai lleiafrifoedd wedi cyrraedd Cymru ymhell cyn y Chwyldro Diwydiannol. Un felly oedd y Roma, neu'r 'Sipsiwn Cymreig' fel y cyfeirid atynt yn aml. Mae eu hiaith, Romani Cymreig, yn ein hatgoffa mai tair iaith frodorol (Cymraeg, Saesneg a Romani Cymreig) sydd gan Gymru, ac nid dwy.
Nid ffigyrau goddefol yn hanes y diwylliant Cymraeg oeddynt. Roedd John Roberts o'r Drenewydd, neu Delynor Cymru fel y'i gelwid, siaradwr rhugl o Romani Cymreig, yn gyfrannwr nodedig i ddiwylliant cerddorol Oes Fictoria.
Profiadau cymysg lleiafrifoedd ethnig
Cyhoeddwyd llenyddiaeth yn y Gymraeg gan aelodau o leiafrifoedd ethnig yn trafod eu profiadau. Un o gofiannau gorau'r iaith yw Y Tincer Tlawd gan Tom Macdonald o Bow Street lle mae'n adrodd hanes ei fagwraeth fel mab Teithiwr Gwyddelig ar ddechrau'r ugeinfed ganrif.
Ac mae'n bosib mai Cymro du yw awdur baled o'r 1830au, Hanes, Cyffes, Achwyniad, Anerchiad, a Dymuniad y Negroes, ond yn anffodus ni allwn fod yn sicr.
Diwylliant amlethnig ac amlddiwylliannol yw'r diwylliant Cymraeg modern felly.
Ond rhag i neb feddwl mai gwynfyd oedd y byd Cymraeg hwn, cofiwch i hiliaeth ffynnu hefyd. Bu farw Solomon Webb, glöwr du o India'r Gorllewin a oedd wedi dysgu Cymraeg ac yn byw yng Nghwm Cynon, wedi ymosodiad hiliol yn 1870.
Wynebai'r Roma a'r Gwyddelod hiliaeth systemataidd hefyd. Roedd ugain o derfysgoedd gwrth-Wyddelig yng Nghymru yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, y rhan fwyaf mewn cymunedau Cymraeg.
Ac roedd gwrth-semitiaeth yn staen ar bawb bron ar un adeg. Mae i'w gweld yng ngwaith mawrion ein llên megis O. M. Edwards, John Morris-Jones, W. J. Gruffydd, T. Gwynn Jones a Saunders Lewis.
Fel ymhob cymdeithas yn y gorllewin, ceid rhagfarnau garw yn y Gymru Gymraeg. Ond roedd patrwm hyn yn wahanol weithiau i'r hyn a geid yn Lloegr ac yn wir yn y Gymru Saesneg. Dyma reswm arall pam fod angen llyfr yn trafod y pwnc o safbwynt y diwylliant Cymraeg yn benodol.