Araith Llywydd y Dydd: Seren Jones

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Seren Jones, Llywydd dydd Sadwrn Gŵyl AmGen

Un o Gaerdydd ydy Seren Jones - llywydd dydd Sadwrn - gohebydd, cyflwynydd a chynhyrchydd sy'n gweithio yn Uned Podlediadau Newyddion y BBC yn Llundain.

'...yn ôl y gymdeithas dwi erioed wedi 'edrych' yn Gymreig...'

Mis Mai oedd mis anoddaf fy ngyrfa hyd yn hyn. Dyma pryd gafodd George Floyd ei ladd gan Derek Chauvin, aelod o Heddlu Minneapolis yn America. Dyn du arall yn colli ei fywyd i'r awdurdodau - sefyllfa sydd ddim yn un newydd, yn enwedig yn yr Unol Daleithau.

Beth oedd yn newydd am yr achos, oedd y ffaith cafodd y digwyddiad cyfan ei recordio a'i roi ar y we. Yr wyth munud 46 eiliad cyfan, a'r holl amser fe ddywedodd George Floyd 'I can't breathe'.

Fe sbardunodd marwolaeth George Floyd brotestiadau Mae Bywydau Du o Bwys ar draws y byd, yn ogystal â thrafodaethau hir ac anghyfforddus, rhwng ffrindiau, teuluoedd a chymdogion am hiliaeth, cydraddoldeb a hunaniaeth.

Dros y ddau fis diwethaf, dwi wedi cael gymaint o sgyrsiau am y pwnc - gormod hyd yn oed, sy'n anochel mewn ffordd. Mae 'na gred bod dyletswydd ar bobl ddu i egluro pam oedd beth ddigwyddodd i George Floyd mor erchyll - er nad yw'n ddyletswydd arnyn nhw o gwbl. Felly fel llawer o bobl yn y gymuned, dwi wedi ffeindio'r cyfnod yn flinedig ac yn andros o emosiynol.

Ond, er hynny, dwi wedi ffeindio fy hun yn ysgrifennu araith ac yn llywio sgwrs ar gyfer Gŵyl AmGen BBC Radio Cymru a BBC Cymru Fyw, yr ŵyl gyntaf o'i bath i gael ei chynnal trwy gyfrwng y Gymraeg, erioed. A dyna'r prif reswm nes i benderfynu cymryd rhan.

Dydyn ni ddim yn siarad am anghydraddoldeb, am hiliaeth yn y gymuned Gymreig er bod y ddau beth hyn yn bodoli yma yng Nghymru hefyd. Doedd llofruddiaeth George Floyd ddim jyst yn ddyn yn cael ei ladd oherwydd lliw ei groen, roedd e'n symboleiddio llais sy'n cael ei anwybyddu, a bywyd sy'n llai pwysig - rhywbeth mae gormod ohonom ni yn gallu deall.

Mae Cymru yn adre i mi ac i filoedd o bobl eraill o gefndiroedd du, Asiaidd a lleiafrif ethnig.

'You're Seren Jones?! And you speak Welsh?'

O beth dwi'n deall, yn ôl y gymdeithas dwi erioed wedi 'edrych' yn Gymreig. A dwi 'di sylwi, does dim ots pa mor Gymraeg yw dy enw di, os dwyt ti ddim yn edrych fel mae dy enw'n 'awgrymu', mae dy Gymreictod yn cael ei gwestiynu.

Dyma'r patrwm sydd wedi ymddangos, o fy mhlentyndod ac i mewn i fy ugeiniau. Blynyddoedd yn ôl, tra roeddwn i yn yr ysgol uwchradd, penderfynais roi fy enw mewn i beiriant ymchwil Facebook. Dwi ddim yn cofio pam, ond dwi'n cofio eisiau gwybod beth fysa fe fel i rywun chwilio amdana i ar y platfform cymdeithasol hwn.

Cymerodd y dasg lai nag eiliad i Facebook ei chwblhau, a chefais fy nghyflwyno i ddwsinau o Seren Joneses ar draws y wlad. Un ar ôl y llall, mi welais wynebau o Gaerfyrddin, Cwm Aman, Casnewydd ac Ynys Môn. Wynebau hardd, wynebau hapus, wynebau hyderus. Roedd rhai yn ferched yn eu harddegau ac eraill yn fenywod ac yn famau.

Ond yr un peth oedd yn debyg i bawb oedd lliw eu croen.

Doeddwn i heb sylwi'n llwyr pa mor Gymraeg oedd yr enw, fy enw: Seren Jones. Jyst enw cyfarwydd Cymraeg yw e, fel Lowri neu Angharad neu Catrin. Doeddwn i ddim yn ymwybodol bod Seren Jones - i rai - efallai yn edrych fel rhywun penodol, a ddechreuais i gwestiynu faint o bobl oedd yn cysylltu'r enw Seren Jones gyda'r merched roeddwn i'n syllu arnynt ac yn sgrolio heibio ar Facebook.

Doedd hi ddim yn annisgwyl felly, bod pobl yn synnu pan oeddwn i'n cyflwyno fy hun, heb sôn am y ffaith bod fi'n siarad Cymraeg.

'You're the Welsh language trainee?!'

Dyma oedd yr ymateb a gefais i ar fy niwrnod cyntaf o hyfforddiant gyda'r BBC yn Birmingham, pedair blynedd yn ôl.

'Yes,' meddaf. 'I'm Seren Jones.'

'You're Seren Jones?! And you speak Welsh?' meddai'r dyn gyda chofrestr y newyddiadurwyr newydd.

Felly, ar ddiwrnod cyntaf fy swydd newydd, ffeindiais fy hun mewn sefyllfa ble roedd rhywun yn cael trafferth wrth ddeall fy modolaeth. Er roedd ymateb y dyn yn ddiniwed ac yn anffodus, yn gyffredin, doedd e ddim yn gwybod neu'n credu fod pobl fel fi - nad sy'n wyn - hefyd yn gallu siarad Cymraeg.

Felly mewn ffordd, gyda llawer iawn o bobl eraill, doedd e ddim yn gwybod ein bod ni'n bodoli. Dyma ganran o boblogaeth y wlad nad sy'n cael eu hystyried yn Gymry oherwydd lliw eu croen.

Ffynhonnell y llun, Seren Jones

Alla i ofyn pam bod y rhagdybiaeth yma yn un eang, ond dwi'n meddwl bod llawer ohonom ni yng Nghymru yn gwybod peth o'r ateb. Ac er mwyn deall yr ateb cyfan, mae'n rhaid i ni gynnal y sgyrsiau anghyfforddus yma.

'...i rai mae yna natur ddethol yn dal i berthyn i'r gymuned Gymreig.'

Yn ôl y cyfrifiad diwethaf yn 2011, roedd 94% o Gymru yn datgan eu hun yn wyn, sy'n meddwl mai dim ond 6% o Gymru sydd yn dod o gefndiroedd du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig.

O ran siaradwyr Cymraeg, mae llai na 900,000 yn byw yng Nghymru, ond dyw'r canrannau o bobl o gefndiroedd du, Asiaidd, a lleiafrifoedd ethnig sydd yn siarad Cymraeg ddim ar gael eto.

Ac mae hynny'n d'eud digon.

Er bod Cymru yn troi'n fwy amlddiwylliannol pob blwyddyn, i rai mae yna natur ddethol yn dal i berthyn i'r gymuned Gymreig. Cymuned sydd wedi brwydro i gadw ei hiaith a'i diwylliant yn fyw, ac o ganlyniad yn amddiffynnol am ei hunaniaeth.

Ac nid yn unig ydy'r iaith yn fyw - mae hi'n tyfu. Gyda gôl y Llywodraeth i gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, mae mwy o bobl yn dysgu'r iaith nawr nag erioed o'r blaen.

Ond er bod ein hiaith yn symud ymlaen, ydy ein hagwedd tuag at ein poblogaeth yn symud yn yr un cyfeiriad? Oes angen cwestiynu Cymreictod pobl sydd gydag acenion gwahanol, cefndiroedd gwahanol a phrofiadau gwahanol?

Oes angen cymharu Cymreictod rhywun nad sy'n wyn ond sy'n siarad Cymraeg, gyda rhywun gwyn sydd ddim yn siarad yr iaith? Oes angen aros yn y gorffennol pan all y dyfodol edrych mor obeithiol?

Unwaith y byddwn ni'n datgymalu'r hierarchaeth yma o Gymreictod, fe fydd y newid yn dechrau.