Gofal cymdeithasol: 'Cymru i gael arian ychwanegol'

  • Cyhoeddwyd
gofal iechydFfynhonnell y llun, SPL

Bydd Cymru yn cael cyfran o arian ychwanegol ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yn sgil cynnydd mewn yswiriant gwladol, yn ôl Prif Weinidog y DU.

Bydd y sector yn derbyn £700m ychwanegol y flwyddyn erbyn 2024-25.

Dywedodd Boris Johnson fod hwn yn "ddifidend undeb" wrth iddo ddatgelu cynlluniau ar gyfer cyllid iechyd a gofal cymdeithasol yn Lloegr.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud fod y cyhoeddiad yn brin o fanylion.

Beth sy'n newid?

Mae Cymru eisoes yn derbyn £1.2bn gan yswiriant gwladol, ac felly mae'r cyhoeddiad yn golygu y bydd y swm yn codi.

Fe fydd yr arian ychwanegol yn gorfod cael ei wario ar iechyd a gofal cymdeithasol.

Dywedodd Mr Johnson y byddai'r cenhedloedd datganoledig yn derbyn £2.2bn yn ychwanegol y flwyddyn - 15% yn fwy nag y byddan nhw'n talu i mewn trwy'r Ardoll Iechyd a Gofal Cymdeithasol newydd.

Bydd yr arian newydd yn cael ei godi trwy gynnydd o tua 1.25% mewn cyfraniadau yswiriant gwladol.

Byddai cynnydd o 1.25% yn golygu y byddai rhywun ar gyflog o £30,000, er enghraifft, yn talu £255 yn ychwanegol y flwyddyn.

O 2023 fe fydd y cynnydd yn troi'n dreth ar wahân ar enillion.

Dadansoddiad Elliw Gwawr, gohebydd seneddol

Fel arfer pan fydd Cymru'n derbyn arian gan Lywodraeth y DU yn sgil gwariant ar feysydd fel iechyd neu addysg yn Lloegr, mae Mark Drakeford yn cael ei wario ar beth bynnag mae o eisiau.

Ond yn yr achos yma, fe fydd yr arian sy'n cael ei godi drwy'r cynnydd mewn yswiriant gwladol yn gorfod cael ei wario ar iechyd a gofal cymdeithasol.

Nawr dwi'n eithaf sicr mai dyna y byddai Mark Drakeford yn dymuno ei wneud, ond fel arfer ei benderfyniad o yn unig fyddai hynny.

Does dim dwywaith bod hyn yn ymgais gan Boris Johnson i ddangos grym a gwerth yr undeb. I ddangos bod gan ei lywodraeth ddylanwad yng Nghymru.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Ond mae 'na gynsail i hyn, mae Llywodraeth Cymru eisoes yn derbyn rhyw £1.2bn drwy gyfraniadau yswiriant gwladol sy'n gorfod cael ei wario ar iechyd.

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud nad oes 'na unrhyw beth newydd fan hyn, ac mai nhw fydd dal yn penderfynu ar y polisi.

Ond fe fydd rhai yn poeni na fydd hyn yn achos unigryw, ac y bydd Llywodraeth y DU yn fwy parod i wneud hyn eto yn y dyfodol mewn meysydd eraill sydd i fod dan rym Llywodraeth Cymru.

A fydd system gofal Cymru'n newid?

Mater i weinidogion Cymru fydd penderfynu a ddylid diwygio gofal cymdeithasol yng Nghymru - rhywbeth y mae galw mawr amdano wrth i gostau gofal godi.

Mae polisi gofal cymdeithasol Cymru yn cael ei osod gan y llywodraeth yng Nghaerdydd, ac yn cael ei ariannu'n bennaf drwy'r arian y mae Llywodraeth Cymru yn ei gael gan Drysorlys y DU.

Ar hyn o bryd mae'n rhaid i'r rhai sy'n derbyn gofal dalu cyfraniad, yn ôl faint o incwm ac asedau sydd ganddyn nhw.

Yng Nghymru, mae'n rhaid talu uchafswm o £100 yr wythnos am ofal yn y cartref os oes ganddyn nhw incwm uchel a chynilon neu fuddsoddiadau dros £24,000.

Os oes ganddynt dros £50,000 o gyfalaf mae'n rhaid talu'r costau llawn, ond o dan hynny ac mae cynghorau'n cyfrannu at y gost.