Beiciwr modur wedi marw ac un arall yn yr ysbyty

  • Cyhoeddwyd
map

Mae beiciwr modur wedi marw ar ôl digwyddiad yn ymwneud â beic modur arall ger Betws-y-Coed.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r A5 ger Rhydlanfair, Conwy, toc wedi 13:30 ddydd Mawrth.

Dywed Heddlu'r Gogledd y bu farw dyn 52 oed o Sir Derby yn y fan a'r lle.

Cafodd gyrrwr beic modur arall, dyn 61 oed, ei gymryd i'r ysbyty gydag anafiadau difrifol lle mae'n parhau i fod mewn cyflwr sefydlog.

Dywedodd y sarjant dros dro, Liam Morris o'r Uned Plismona Ffyrdd bod swyddogion arbenigol yn cefnogi teulu'r dyn fu farw.

"Mae'r ymchwiliad yn parhau i sefydlu amgylchiadau'r gwrthdrawiad hwn ac rydym yn apelio i glywed gan unrhyw un a allai fod wedi bod yn dyst i'r digwyddiad," meddai.

Cafodd y ffordd ei hailagor ychydig cyn 21:00 nos Fawrth.

Pynciau cysylltiedig