Gweithiwr Heddlu De Cymru wedi'i arestio yn Cyprus

  • Cyhoeddwyd
Christopher Browning wedi'i arestio
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Christopher Browning ei arestio yn Cyprus mewn cysylltiad â damwain ffordd angheuol

Mae gweithiwr gyda Heddlu De Cymru wedi cael ei arestio yng Nghyprus mewn cysylltiad â damwain ffordd angheuol.

Cafodd Christopher Browning ei arestio yn dilyn damwain ger tref Esentepe yng ngogledd Cyprus yn oriau mân dydd Iau, 2 Medi.

Bu farw dyn lleol, 58, a oedd yn gyrru beic modur, yn y fan a'r lle.

Ei enw oedd Bülent Güzelkeskin yn ôl ffynonellau lleol.

Dywedodd yr heddlu yng ngogledd Cyprus fod Mr Browning wedi'i arestio ar amheuaeth o yfed a gyrru ac eu bod wedi cymryd ei basbort oddi arno.

Yn ôl adroddiadau yn y cyfryngau lleol, fe ymddangosodd gerbron barnwr yn Famagusta ac mae bellach wedi ei gadw yn y ddalfa.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu De Cymru: "Gallwn gadarnhau ein bod yn ymwybodol bod aelod o staff Heddlu De Cymru wedi'i arestio yng Nghyprus.

"Ni allwn ddweud mwy ar hyn o bryd."