'Gwerth miloedd o ddifrod' wedi'i wneud ym Mharc Bute
- Cyhoeddwyd

Dywedodd y Cynghorydd Peter Bradbury fod y weithred hon o fandaliaeth yn drosedd
Mae "gwerth miloedd o bunnoedd o ddifrod" wedi cael ei wneud mewn parc yng Nghaerdydd.
Cafodd dros 50 o goed eu dinistrio ym Mharc Bute nos Iau, ynghyd â biniau wedi'u rhwygo o'r concrit a photiau planhigion wedi'u dinistrio.
Mae'r difrod wedi'i wneud yr holl ffordd o Bont y Gored Ddu i Ystafelloedd Te Pettigrew.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Hamdden a Chwaraeon, y Cynghorydd Peter Bradbury, fod y weithred hon o fandaliaeth yn annerbyniol.
"Rwy'n condemnio'r ymddygiad hwn yn llwyr. Nid yw hyn yn dderbyniol; nid oes rheswm o gwbl i unrhyw un ddinistrio ardal sydd yno yn unswydd i bawb ei mwynhau," meddai.

Potiau planhigion wedi'u difrodi

"Mae gwerth miloedd o bunnoedd o ddifrod wedi'i wneud.
"Mae hon yn drosedd ac mae'r heddlu wedi cael gwybod."
Ychwanegodd fod swyddogion yn parhau i asesu'r difrod yn y parc.
Mae yna apêl i unrhyw yn sydd ag unrhyw wybodaeth i gysylltu â Crimestoppers ar 0800 555 111.