Y Gynghrair Genedlaethol: Wrecsam 1-0 Woking

  • Cyhoeddwyd
Jordan DaviesFfynhonnell y llun, Rex Features

Roedd peniad Jordan Davies yn yr hanner cyntaf yn ddigon i roi buddugoliaeth gartref gyntaf o'r tymor i Wrecsam ddydd Sadwrn.

Fe enillodd y Dreigiau o 1-0 ar y Cae Ras yn erbyn Woking, er gwaetha'r ffaith iddyn nhw fynd lawr i 10 dyn.

Aeth tîm Phil Parkinson yn haeddiannol ar y blaen wedi 40 munud pan ddisgynnodd croesiad Paul Mullin yn berffaith i Davies a rwydodd o 10 llath.

Cafodd David Jones, a ddaeth ymlaen yn lle Davies yn yr ail hanner, ei anfon o'r maes ar ôl dau gerdyn melyn.

Ond fe lwyddodd y tîm cartref i ddal eu gafael a sicrhau triphwynt.