Teithwyr o Gymru i gael defnyddio profion PCR preifat yn fuan

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Ar hyn o bryd mae'n rhaid i deithwyr sy'n teithio'n ôl i Gymru dalu £68 am brawf CovidFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ar hyn o bryd mae'n rhaid i deithwyr sy'n teithio'n ôl i Gymru dalu £68 am brawf Covid

Gall teithwyr tramor o Gymru ddefnyddio dewis ehangach o gwmnïau profi Covid o 21 Medi, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi.

Ar hyn o bryd dim ond profion drutach y GIG y gall preswylwyr Cymru ddefnyddio - ac eithrio amgylchiadau eithriadol.

Ond bydd hynny'n newid wrth i reolau'r DU newydd, sy'n plismona profion teithio PCR preifat a threfn gwirio ar hap, gael eu cyflwyno.

Dywedodd gweinidog iechyd Cymru y bydd hynny'n helpu "safonau ar gyfer profion preifat".

Cwynion am rai profion

Ar hyn o bryd mae'n rhaid i deithwyr sy'n dychwelyd i Gymru ddefnyddio profion PCR y GIG ar ddiwrnod dau eu dychweliad - a diwrnod wyth os nad ydyn nhw wedi'u brechu - ar gost o £68 yr un. Yn Lloegr, mae profion preifat ar gael, o tua £50.

Ond dywedodd Llywodraeth y DU y byddai'n tynhau rheolau ar ddarparwyr preifat yn dilyn cwynion am "ymddygiad cowboi" gan rai cwmnïau profi.

Roedd cwynion am hysbysebu prisiau anghywir a chamarweiniol, yn ogystal â darparu canlyniadau'n araf.

Tynnodd Llywodraeth Cymru sylw at bryderon hefyd nad oedd canlyniadau profion "yn llifo i systemau Cymru", gan ei gwneud hi'n anodd olrhain pobl ar eu gwyliau a allai fod wedi'u heintio.

O ganlyniad i'r pryderon, mae'r Awdurdod Cystadlaethau a Marchnadoedd wedi gwneud cyfres o argymhellion i weinidogion y DU i wella'r farchnad profi teithio.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae cwynion wedi bod am rai darparwyr profion preifat yn Lloegr

Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai'r mesurau newydd yn sicrhau y byddai canlyniadau profion - gan gynnwys nodi amrywiadau newydd o Covid - yn cael eu prosesu a'u hadrodd "yn gyflym ac o fewn cyfnod amser tebyg i brofion y GIG".

"O ystyried y rheoliadau newydd a'r effaith ar safonau ar gyfer profion preifat, byddwn yn gwneud newidiadau i'r rheolau i alluogi pobl sy'n teithio i Gymru i archebu profion gyda darparwyr sector preifat, os dymunant," meddai Gweinidog Iechyd Cymru, Eluned Morgan.

Dywedodd ei bod yn croesawu'r cynnydd a wnaed wrth fynd i'r afael â phryderon ynghylch profion preifat - a phwysleisiodd y byddai profion y GIG hefyd ar gael i'w harchebu.

"Mae'n bwysig cofio bod coronafeirws yn dal gyda ni, ac mae ein cyngor yn parhau i fod y dylai pobl osgoi pob teithio rhyngwladol nad yw'n hanfodol," ychwanegodd Ms Morgan.