Llywodraeth Cymru yn ystyried newid rheolau profion teithio
- Cyhoeddwyd
Gallai'r rheol sy'n atal teithwyr tramor Cymreig rhag defnyddio profion PCR gan gwmnïau preifat gael ei gwaredu gan Lywodraeth Cymru.
Mae'r rheolau presennol yn nodi bod yn rhaid i deithwyr Cymreig ddefnyddio profion £68 y Gwasanaeth Iechyd ar ôl dychwelyd o dramor - neu wynebu dirwy o £1,000.
Ym mis Gorffennaf dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, bod "rhesymau da" dros ffafrio profion y Gwasanaeth Iechyd ac nad oedd "unrhyw gynllun i newid hynny".
Daw'r newyddion bod y llywodraeth yn "adolygu" y polisi wedi i ymchwiliad gan BBC Cymru ddatgelu bod nifer o deithwyr tramor Cymreig wedi defnyddio profion PCR preifat heb unrhyw drafferth - a bod cwmnïau preifat yn eu cynnig nhw'n agored i deithwyr o Gymru.
Cymru yw'r unig wlad yn y Deyrnas Unedig sydd yn dal i fynnu bod teithwyr yn defnyddio profion PCR y Gwasanaeth Iechyd ar yr ail ddiwrnod wedi dychwelyd o dramor - a'r wythfed os nad yw teithwyr wedi eu brechu'n llawn - a hynny ar gost o £68 am bob prawf.
Ddydd Gwener diwethaf fe gyhoeddodd Llywodraeth yr Alban y bydden nhw'n dilyn Lloegr a Gogledd Iwerddon gan ganiatáu i deithwyr ddefnyddio profion PCR gan gwmnïau preifat ar ôl dychwelyd o dramor.
Nôl ym mis Gorffennaf fe fu Mark Drakeford yn amddiffyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i lynu at brofion y Gwasanaeth Iechyd. Dywedodd bod "rhesymau da" dros ddefnyddio'r profion a'u bod yn "adnabod amrywiolion coronafeirws pryderus o dramor yn fuan".
Dywedodd fod y rhesymau hynny yn rhai "grymus," nad oedd "unrhyw gynlluniau i newid y safbwynt hwnnw" ac na fyddai'n "dargyfeirio egnïon fy swyddogion er mwyn ei gwneud hi'n haws i bobl wneud rhywbeth sy'n cael ei ystyried yn annoeth gan Lywodraeth Cymru".
Ond mae BBC Cymru wedi siarad â nifer o deithwyr tramor sy'n dweud eu bod wedi llwyddo i gael gafael ar ac wedi defnyddio profion PCR gan gwmnïau preifat yn gwbl ddi-drafferth ar ôl dychwelyd o dramor.
'Prawf preifat heb drafferth'
Dywedodd un deithwraig, a rannodd ei phrofiadau ar gyfryngau cymdeithasol, ei bod hi'n "byw yng Nghymru, ond wedi teithio allan ac yn ôl i mewn i Fryste, wedi defnyddio darparwyr eraill heb ddim trafferth o gwbl. Randox ddefnyddion ni".
Dywedodd un arall ei bod hi "o Gymru ac wedi defnyddio profion Randox. Dwi'n nabod llawer o ffrindiau sydd wedi eu defnyddio nhw heb drafferth hefyd".
Dywedodd trydedd teithwraig ei bod hi hefyd wedi defnyddio profion PCR Randox, ei bod wedi "teithio deirgwaith o Gymru" a'i bod "wedi defnyddio cwmni preifat Randox am nad o'n i'n gwybod bod Cymru yn mynnu profion NHS wrth ddychwelyd. Dim trafferth nac unrhyw un yn rhoi stŵr i fi".
Dywedodd teithiwr arall ei bod hi'n "bosib prynu rhai [profion] Seisnig, dy'n nhw ddim yn gwirio ble y'ch chi'n byw".
Mae gan un o'r cwmnïau profion PCR preifat a ddefnyddiwyd gan nifer o'r teithwyr, Randox, bedwar blwch casglu profion PCR ar draws de Cymru.
Mae un o'r blychau hynny wedi ei leoli y tu allan i glinig Vivo yng Nghaerdydd - cwmni oedd, tan i BBC Cymru gysylltu â nhw, â gwefan yn dweud wrth gwsmeriaid y bydden nhw'n gallu "archebu eu profion PCR Diwrnod 2 a Diwrnod 8 yn ein clinig yng Nghaerdydd".
Roedden nhw'n dweud hefyd eu bod nhw "wedi eu nodi ar restr y Llywodraeth o ddarparwr profion PCR mewn partneriaeth â Randox".
Mae'r cwmni bellach wedi dileu'r hysbyseb oddi ar y wefan ond yn mynnu bod unrhyw gyhuddiad o dorri rheolau Cymru yn "annheg ac yn anghyfiawn".
Yr wythnos diwethaf fe alwodd yr Aelod Seneddol Ceidwadol David TC Davies ar Lywodraeth Cymru i newid y rheolau fel bod teithwyr yn cael "siopa o gwmpas" am brofion PCR gan gwmnïau preifat, sy'n gallu bod yn rhatach. Ond mae'n dweud na ddylai hyn ddigwydd drwy'r drws cefn.
"Does gan neb yr hawl i dorri'r rheolau. Er nad ydw i'n hapus â'r sefyllfa yng Nghymru, mae'n rhaid i bobl ddilyn rheolau Cymru."
Mae'r rheolau yng Nghymru ar hyn o bryd yn nodi bod yn rhaid i chi archebu "pecyn profion teithio cyn i chi gyrraedd Cymru" a bod "Cymru yn defnyddio profion y GIG, yn hytrach na phrofion preifat, gan eu bod yn cael eu prosesu gan labordai'r GIG ac am fod y canlyniadau'n cael eu hanfon yn uniongyrchol i systemau GIG Cymru. Mae hyn yn helpu i nodi unrhyw amrywiolion niweidiol ac yn hwyluso'r broses o olrhain cysylltiadau".
Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cadarnhau bod y ddirwy bosib o £1,000 i unrhyw un sy'n defnyddio prawf PCR preifat ar ôl cyrraedd Cymru dal yn weithredol.
Yn ôl llefarydd ar ran Clinig Vivo yng Nghaerdydd, maen nhw yn "gwmni cenedlaethol sy'n cynnig gwasanaeth profi mewn sector lle mae'r canllawiau yn newid o hyd. Fodd bynnag, mae'r honiad o dorri rheolau Cymru yn annheg ac yn anghyfiawn".
Ychwanegodd: "Mae llawer o'n cleientiaid yn croesi ffin Lloegr/Cymru yn ddyddiol ac i rai cwsmeriaid sydd wedi eu lleoli yn Lloegr efallai bod eu clinig agosaf yng Nghymru.
"Oherwydd y galw uchel am wasanaethau profi PCR ar hyd ffin Lloegr/Cymru rydyn ni'n cynnig ein holl wasanaethau ym Mryste, Caerdydd ac Abertawe er mwyn rhoi mwy o ddewis i gwsmeriaid i ble y gallan nhw fynd i gael eu profion cyn ac ar ôl teithio.
"Mae ein gwefan yn ei gwneud hi'n glir bod yn rhaid i gwsmeriaid wirio'r cyfarwyddiadau lleol er mwyn sicrhau eu bod nhw'n defnyddio'r profion cywir yn seiliedig ar y gofynion hyn.
"Er hynny, rydyn ni wedi tynnu'r profion Diwrnod 2/8 o'n clinigau yng Nghymru hyd nes ein bod ni'n derbyn cyfarwyddiadau pellach ar bolisi a phrotocol."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod nhw'n "parhau i adolygu'r sefyllfa o ran profion preifat yng Nghymru" a'u bod yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau mai dim ond y cwmnïau hynny sy'n cyrraedd safonau sydd wedi eu cytuno ar y cyd sy'n cael darparu profion.
"Mae'n allweddol fod unrhyw achosion positif ac unrhyw amrywiolion niweidiol yn cael eu hadnabod cyn gynted â phosib," ychwanegodd.
"Am y rheswm hynny, am y tro, rydyn ni'n ei gwneud hi'n ofynnol bod yr holl brofion yn cael eu darparu gan y Gwasanaeth Iechyd, fel ein bod ni'n gallu adnabod unrhyw achosion positif cyn gynted â phosib trwy'n system Profi, Olrhain a Diogelu ni."
Mae BBC Cymru wedi gofyn i gwmni Randox am ymateb.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Awst 2021
- Cyhoeddwyd13 Gorffennaf 2021