Galw am gwest i drychineb pwll glo Gleision wedi 10 mlynedd

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Dywedodd teuluoedd y rhai fu farw ei bod yn bwysig cofio am y pedwar, ddegawd wedi'r trychineb

Mae teuluoedd pedwar o lowyr fu farw mewn pwll glo yn ne Cymru yn galw am gwest i'r marwolaethau, ddegawd wedi'r trychineb.

Bu farw Charles Breslin, 62, David Powell, 50, Phillip Hill, 44, a Garry Jenkins, 39, pan ddaeth dŵr i mewn i bwll glo Gleision yng Nghilybebyll, Castell-nedd Port Talbot ym mis Medi 2011.

Cafwyd rheolwr a pherchnogion y lofa yn ddieuog o ddynladdiad yn 2014.

Dywedodd gweddw Mr Breslin, Mavis, ei bod yn teimlo ei bod wedi ei "thwyllo" - wedi iddi golli gŵr ac am na chafwyd cwest i'w farwolaeth.

Dywedodd y Gweithgor Iechyd a Diogelwch (HSE) nad oedd yn gallu gwneud sylw oherwydd mai'r heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron oedd yn arwain yr ymchwiliad a'r achos llys i'r digwyddiad.

Ffynhonnell y llun, Lluniau teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Charles Breslin, David Powell, Philip Hill a Garry Jenkins ym mhwll glo Gleision ar 15 Medi 2011

Dywedodd Mrs Breslin bod y degawd diwethaf wedi bod "yn galed iawn".

"O'dd e'n dad da, yn ŵr da, a ni'n gweld ei eisiau fe lot," meddai wrth Newyddion S4C.

Dywedodd nad yw hi'n gwybod fawr fwy am y trychineb heddiw na'r hyn a gafodd wybod ar y diwrnod y digwyddodd ar 15 Medi 2011 neu yn ystod yr achos yn erbyn y perchnogion.

"Unwaith o'dd Charles wedi marw doedd dim newyddion 'da fi," meddai. "S'neb wedi dweud mwy na beth o'n i'n ffeindio mas yn y cwrt."

Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth dŵr lifo mewn wrth i'r gweithwyr dorri trwy hen weithfeydd er mwyn ceisio gwella cylchrediad aer yn y pwll

Ychwanegodd ei bod yn dal i deimlo bod angen atebion, a'i bod hi hefyd bellach yn cefnogi'r alwad am gwest i'r marwolaethau.

"Fi wedi clywed bo' nhw'n meddwl am agor inquest, ac i ddechre ddwedes i na, ond nawr fi moyn gwybod mwy o'r facts," meddai.

"O'dd Charles mo'yn siarad 'da fi am y lle, ond o'dd e ddim yn dweud gormod - felly o'n i'n meddwl bod rhywbeth ddim yn right.

"Wedodd e 'If you only knew what he [y rheolwr Malcolm Fyfield] was going to do' - fi'n cofio fe'n dweud 'ny.

"We'n i'n dweud wrtho fe am beidio mynd mewn i'r gwaith, ond o'dd e mo'yn mynd mewn."

'Dim cysur'

Dywedodd gweddw Mr Powell, Lynette, mai'r unig beth dderbyniodd hi oedd tystysgrif marwolaeth dros dro.

"Dydy hynny ddim yn rhoi cysur a chau'r mater i mi. Dydw i ddim wedi cael cwest - nid yn unig i mi ond i'r teuluoedd eraill hefyd," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Carwyn Jones fod yr alwad am gwest yn un "hollol naturiol"

Mae Carwyn Jones, oedd yn brif weinidog ar y pryd, wedi cefnogi galwadau'r teuluoedd am gynnal cwest.

"Fi'n credu bod e'n alwad hollol naturiol, wrth feddwl bod pobl mo'yn gweld atebion," meddai wrth Newyddion S4C.

"Fi'n credu bod 'na gryfder ynglŷn â hynny - byddai'n rhywbeth fyddai'n gorfod cael ei gynnal gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig achos bod hynny'n rhywbeth sydd heb ei ddatganoli.

"Bydden i'n annog i weinidogion yn San Steffan ailystyried, a gweld unwaith 'to a ddylid cael proses nawr i edrych yn fanwl ar beth ddigwyddodd er mwyn cael yr atebion mae'r teuluoedd eisiau."

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Nigel Evans a Jake Wyatt yn ddau o'r tri o weithwyr a oroesodd y trychineb y diwrnod hwnnw

Mae dau a oroesodd y trychineb yn 2011 wedi dweud wrth raglen Wales Investigates eu bod yn teimlo fod marwolaethau eu cydweithwyr wedi cael eu "'sgubo dan y carped".

Yn eu cyfweliadau cyntaf ers y digwyddiad mae Jake Wyatt a Nigel Evans yn honni bod cyflwr y pwll glo yn anghyfreithlon, a bod yr awdurdodau wedi methu yn eu cyfrifoldeb i ganfod yn union beth ddigwyddodd i achosi'r marwolaethau.

Cyfleoedd wedi'u methu?

Mae Lee Reynolds, fu'n syrfëwr ym mhwll glo Gleision ac a roddodd dystiolaeth yn yr achos, hefyd yn cwestiynu a oedd yr Awdurdod Glo a'r HSE wedi sylweddoli ar fwyngloddio anghyfreithlon honedig ar y safle cyn 2011.

Mae Mr Reynolds wedi bod yn gweithio gyda Maria Seage, cydberchennog y lofa, er mwyn ceisio cael mwy o wybodaeth am rôl yr HSE dros y blynyddoedd a'i ymchwiliad i'r trychineb.

Mae'n galw ar yr awdurdodau i asesu a fu cyfleoedd i wella diogelwch yn y pwll glo cyn y digwyddiad.

Dywedodd y dylai ymchwiliad annibynnol fod wedi'i gynnal er mwyn asesu a fu methiannau cyn y trychineb, yn ogystal ag union ddigwyddiadau'r diwrnod hwnnw.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Lee Reynolds eisiau i'r awdurdodau asesu a fu cyfleoedd i wella diogelwch yn y pwll glo

Fe wnaeth y dynion foddi yn y lofa wedi i ddŵr lifo mewn wrth i'r gweithwyr dorri trwy hen weithfeydd er mwyn ceisio gwella cylchrediad aer yn y pwll.

Dywedodd y rheolwr Malcolm Fyfield ei fod wedi asesu'r safle cyn y gwaith ac nad oedd wedi canfod unrhyw ddŵr.

Ond cafodd ei gyhuddo o ddynladdiad am fethu â hysbysu'r HSE ei fod yn bwriadu torri trwodd i'r hen weithfeydd, oedd yn ofyniad cyfreithiol.

Cafwyd Mr Fyfield a'r perchnogion MNS Mining yn ddieuog o ddynladdiad gan reithgor wedi 30 munud yn unig o drafod, yn dilyn achos tri mis o hyd.

Wedi'r achos fe wnaeth crwner Abertawe benderfynu peidio parhau gyda chwest i farwolaethau'r pedwar.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth y crwner benderfynu peidio parhau gyda chwest yn dilyn yr achos

Cafodd adroddiad ffeithiol ei gyhoeddi gan yr HSE yn 2015, ond nid oedd yn gallu ymchwilio i faterion oedd heb eu codi yn yr achos.

Dywedodd llefarydd ar ran y gweithgor na fyddai'n briodol ymateb i sylwadau Mr Reynolds a'r teuluoedd gan mai nid nhw oedd yn gyfrifol am arwain yr ymchwiliad i'r trychineb.

"Fe wnaethon ni gefnogi ymchwiliad Heddlu De Cymru ar y pryd, arweiniodd at achos dynladdiad, ond ni wnaeth yr HSE gyhuddo unrhyw un dan y Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974," meddai.

Trapped Underground: The Gleision Mine Disaster, BBC One Wales am 20:00 nos Fercher ac yna ar iPlayer.