Gleision: Tystiolaeth o bresenoldeb dŵr

  • Cyhoeddwyd
Y Gleision
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Garry Jenkins, 39, Philip Hill, 44, David Powell, 50, a Charles Breslin, 62

Mae adroddiad newydd i farwolaeth pedwar o lowyr ym mhwll y Gleision yn 2011 yn dweud bod tystiolaeth i awgrymu fod yna wybodaeth bod dŵr yn y pwll.

Mae'r adroddiad - a wnaed ar ôl cais gan gyn Ysgrifennydd Cymru Peter Hain - ac sydd wedi ei weld gan BBC Cymru - yn manylu ar yr amgylchiadau yn y pwll pan geisiodd y glowyr dyllu drwodd i hen wythiennau glo.

Bu farw Charles Breslin, 62 oed, David Powell, 50, Philip Hill, 44 a Garry Jenkins, 39, yn y trychineb ym mhwll glo y Gleision ym Medi 2011 pan lifodd 650,000 galwyn o ddŵr i mewn i'r pwll.

Fe ddywed yr adroddiad bod archwilwyr yr HSE wedi canfod dau ddarn o ffyn drilio oedd yn awgrymu bod drilio wedi digwydd yno o'r blaen - techneg sy'n cael ei ddefnyddio i ganfod trwch y glo neu bresenoldeb dŵr yn y pwll.

Mae'r adroddiad hefyd yn dweud bod un glöwr fu'n gweithio yn y rhan yna o'r pwll ar y diwrnod cyn y digwyddiad wedi dweud wrthyn nhw bod dŵr wedi bod yn rhedeg o'r twll dril "fel tap hanner ar agor".

Bu farw'r pedwar glöwr pan ddaeth ton anferth o ddŵr drwy fur y pwll i'r rhan lle'r oedden nhw'n gweithio.

Y llynedd fe gafwyd rheolwr y pwll, Malcolm Fyfield, yn ddieuog o bedwar cyhuddiad o ddynladdiad ar sail esgeulustod.

Hefyd fe gafwyd perchnogion y pwll - MNS Mining - yn ddieuog o ddynladdiad corfforaethol.