Carcharu cyn-hyfforddwr nofio am ymosodiadau rhyw ar blant

  • Cyhoeddwyd
Tom PiggotFfynhonnell y llun, Heddlu Dyfed-Powys
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Tom Piggot wedi gwadu'r holl honiadau ac yn mynnu bod rhywun wedi hacio ei ddyfeisiau cyfrifiadurol

Mae cyn-hyfforddwr nofio wedi cael ei ddedfrydu i naw mlynedd o garchar am ymosodiadau rhyw ar dri o blant.

Cafwyd Tom Piggot, 21 oed o'r Trallwng, yn euog o 10 cyhuddiad - gan gynnwys dau achos o dreisio - yn dilyn achos yn Llys y Goron Yr Wyddgrug ym mis Gorffennaf.

Cafwyd yn euog hefyd o fod â lluniau a fideos anweddus o blant yn ei feddiant - nifer ohonynt yn y categori mwyaf difrifol.

Roedd Piggot wedi gwadu'r holl honiadau ac yn mynnu bod rhywun wedi hacio ei ddyfeisiau cyfrifiadurol.

Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Steve Williams o Heddlu Dyfed-Powys na fyddai wedi bod yn bosib sicrhau euogfarn heb "gryfder a dewrder" y dioddefwyr.

Ychwanegodd bod rhai o'r lluniau ar ddyfeisiau Piggot "ymysg y gwaethaf" y mae wedi'u gweld erioed.