Teyrnged i ddyn aeth ar goll yn Sir y Fflint
- Cyhoeddwyd
Mae teulu a ffrindiau dyn o Sir Gaer aeth ar goll dros bythefnos yn ôl yn Sir y Fflint wedi bod yn rhoi teyrnged iddo ar y cyfryngau cymdeithasol.
Cafodd Jamie Grimwood, 23, ei weld ddiwethaf yn siop gorsaf betrol Esso yng Nghei Connah ar nos Lun, 23 Awst.
Er nad yw Heddlu'r Gogledd wedi cadarnhau eu bod wedi dod o hyd i Mr Grimwood, fe wnaethon nhw ddarganfod corff yn Sir y Fflint yn agos i ble cafodd Mr Grimwodd ei weld ddiwethaf.
Ar dudalen Facebook a grewyd er mwyn cynorthwyo'r chwilio am y tad i un, fe gyhoeddwyd ddydd Llun ei fod wedi marw.
Ar y dudalen, dywedodd aelod o'i deulu, Christopher Day: "Heno fe wnaethom ni ffeindio Jamie ac yn anffodus ni chawsom y canlyniad roedden ni'n gobeithio amdano.
"Rydym yn ansicr o beth digwyddodd yn eiliadau olaf Jamie, ac rydym i gyd yn dorcalonnus.
"Fel teulu, rydym yn ddiolchgar am yr holl help a chymorth a gawsom gan bawb.
"Hoffwn nawr gymryd ychydig o amser fel teulu ac yn gobeithio y bydd pawb yn parchu hyn."
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi bod yn chwilio am y dyn o Runcorn ers iddo gael ei weld am y tro olaf yn y garej ar Stryd Caer yn y Fflint.
Cadarnhaodd yr heddlu bod corff wedi'i ddarganfod ar Stryd Caer ar nos Sadwrn ac mae'r farwolaeth yn cael ei thrin fel un heb esboniad.
Dywedodd yr heddlu y bydd swyddogion yn bresennol yn y fan tra bod ymchwiliadau'n parhau.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Medi 2021
- Cyhoeddwyd8 Medi 2021