Brechu plant 12-15 a brechiad pellach i rai dros 50
- Cyhoeddwyd
Bydd plant rhwng 12 a 15 oed yn cael cynnig brechlyn Covid-19, a bydd pobl dros 50 oed yn cael brechiad atgyfnerthu yn yr hydref, wedi cadarnhad Gweinidog Iechyd Cymru.
Dywedodd bod gwaith yn mynd rhagddo eisoes mewn cysylltiad â'r ddwy raglen frechu, gyda gweithwyr iechyd a phreswylwyr cartrefi gofal i gael cynnig pigiad yr wythnos nesaf.
Ychwanegodd Eluned Morgan y bydd plant 12-15 oed sydd heb eu brechu eto yn cael gwahoddiad i gael dos cyntaf o'r brechlyn Pfizer-BioNTech.
Daw'r cyhoeddiad wedi i Brif Swyddog Meddygol Cymru, ynghyd â'r swyddogion cyfatebol dros y DU, argymell dos cyntaf o'r brechiad Pfizer-BioNTech i blant ddydd Llun.
Brechu plant
Mae yna oddeutu 135,604 o bobl ifanc rhwng 12 a 15 oed yng Nghymru.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, y byddai'r brechu'n digwydd mewn canolfannau brechu, a "rhai" ysgolion.
Dywedodd y byddai'n benderfyniad i fyrddau iechyd a chynghorau ar "sut y bydd hynny'n digwydd".
Os oes anghytuno rhwng rhiant a phlentyn dros gael brechiad, bydd "proses glir i'w ddilyn".
Bydd prawf, meddai, "sydd wedi ei benderfynu gan glinigwyr o ran ydy'r plentyn yn gallu gwneud y penderfyniad".
Ychwanegodd y byddai rhieni sy'n mynd i ganolfan gyda phlentyn yn cael gwybod "manteision ac anfanteision" y brechlyn er mwyn dod i gasgliad.
Bydd llythyron yn cael eu hanfon i rieni os yw'r plentyn yn mynd i gael cynnig brechlyn yn yr ysgol.
Brechiadau atgyfnerthu
Mewn cysylltiad â brechiadau atgyfnerthu, dywedodd y byddai Llywodraeth Cymru'n derbyn cyngor terfynol y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI).
"Rydym wedi bod yn paratoi ar gyfer ymgyrch atgyfnerthu yn yr hydref ers yr haf," meddai.
"Mae ein GIG yn barod i'w weithredu a byddwn yn dechrau wythnos nesaf gan gynnig brechlyn atgyfnerthu i bobl sy'n byw ac yn gweithio mewn cartrefi gofal a staff iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen.
"Byddwn wedyn yn ei gynnig i bawb dros 50; pob aelod staff iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen a phawb sydd â chyflyrau iechyd blaenorol - yn union fel y gwnaethom gyda'r ddau ddos cyntaf o'r brechlyn."
Er hynny, fe wnaeth Ms Morgan ddweud ei fod yn "rhwystredig" ei bod wedi cymryd cyhyd am y cyngor swyddogol ar frechiadau atgyfnerthu.
Dywedodd bod y llywodraeth yn barod ers "rhai wythnosau", wrth aros am gadarnhad y JCVI.
'Penderfyniad fy merch yw e'
Mae'r athrawes Siân-Elin Melbourne yn fam i dri o blant. Mae hi a'i gŵr, sy'n byw gyda diabetes, wedi cael eu brechu, ynghyd â'i merch 21 oed a'i mab 16 oed.
Mae eisoes wedi cael trafodaeth gyda'i merch 14 oed, Mali ynghylch y posibilrwydd o gael brechlyn.
"Dim penderfyniad fi yw e ond penderfyniad fy merch i," meddai wrth raglen Dros Frecwast ddydd Mawrth.
"Ni 'di neud y penderfyniad bod e'n bwysig i ni... a ma' Mali wedi dewis bod hi, os yw'r brechlyn ar gael, bydd hi'n mynd amdani."
Dywedodd bod hi'n bwysig rhoi'r dewis i'w merch gael brechlyn ai peidio, yn ogystal â dewis i allu osgoi rhagor o amharu ar ei haddysg wedi 18 mis anodd.
"Ma' hi mo'yn ca'l yr opsiwn i allu aros yn yr ysgol a dyna be' sy'n bwysig i hi so ni'n gefnogol iawn."
Dywedodd Ms Melbourne bod "un neu ddau o blant" yn gorfod mynd adref o'r ysgol bob dydd ar hyn o bryd wedi canlyniad coronafeirws positif.
Mae hi'n falch nad oes angen danfon dosbarth cyfan adref erbyn hyn, nag aelodau staff sydd wedi cael eu brechu'n llawn. Ond mae'n pwysleisio'r angen i edrych ar y darlun ehangach.
"Os yw plentyn ifanc yn mynd adref, mae angen wedyn i riant aros adref. Mae hynny'n gallu effeithio ar arian y teulu... ar swydd rhiant. Mae'n fwy na jest addysg, mae'n fwy na jest plant yn colli'r ysgol - mae'n effeithio'r teulu i gyd."
Dadansoddiad Gohebydd Iechyd BBC Cymru, Owain Clarke
Wedi deuddydd o gyhoeddiadau - mae hi bellach yn llawer cliriach beth fydd nodweddion y rhaglen frechu yr hydref hwn.
Fe fydd pobol dros 50 oed, a'r rhai sydd â phroblemau iechyd sy'n cynyddu'r risg o gael Covid, yn cael cynnig brechlyn atgyfnerthu - booster - ddim cynt na chwe mis ar ôl derbyn eu hail ddos.
Y nod yn ôl yr arbenigwyr fydd cynyddu imiwnedd yn y cyfnod hynny, cyn bod imiwnedd yn dechrau gwanhau ar ôl y brechiadau cyntaf.
Ac yn y pendraw y bwriad fydd cyfuno'r trydydd brechlyn Covid â'r brechlyn ffliw blynyddol, oherwydd bod yna bryder y gallai ffliw ailymddangos y gaeaf hwn, beth bynnag y sefyllfa o ran Covid.
Fe fydd y gwasanaeth iechyd, ac ysgolion hefyd, nawr yn dechrau ar y gwaith o gynnig y brechlyn i blant 12-15 oed, ar ôl i brif feddygon llywodraethau'r Deyrnas Unedig benderfynu y byddai hyn yn werth chweil fel rhan o'r ymdrech i gadw ysgolion ar agor.
A hynny er i'r cyd-bwyllgor brechu JCVI ddod i'r casgliad gwreiddiol mai bach iawn o fantais o ran iechyd fyddai i blant unigol.
O ganlyniad mae'r Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, yn pwysleisio pwysigrwydd rhoi gwybodaeth glir i blant a rhieni er mwyn iddyn nhw allu dewis beth sydd fwyaf addas ar eu cyfer.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Medi 2021