'Mae gweld gwên ar wynebau'r merched yn ddigon i fi'

  • Cyhoeddwyd
Tirion ThomasFfynhonnell y llun, Tirion Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Tirion a'i gwobr

Mae gwobr Arwr Tawel y BBC yn cydnabod gwirfoddolwyr o fewn y maes chwaraeon - y rhai sy'n gwneud y gwahaniaeth mwyaf i gymunedau.

Mae'r gwaith maen nhw'n ei wneud yn galluogi pobl a phlant i allu cymryd rhan yn ei hoff weithgareddau chwaraeon.

Tirion Thomas o'r Bala oedd yr enillydd diwethaf o Gymru, ac roedd hi'n siarad gyda Aled Hughes ar ei raglen ar BBC Radio Cymru ar fore dydd Mawrth, 14 Medi.

Rhoi gwên ar wynebau'n ddigon

"Mae hyfforddi yn waith dwi 'di bod yn gwneud ers blynyddoedd," meddai Tirion.

"Dechreues i gyda un tîm - sef tîm o dan 18 Y Bala, ond wedyn fi oedd yn gyfrifol am bum tîm - hyfforddi'r tîm o dan 9 yr holl ffordd fyny i dan 18."

Ffynhonnell y llun, Tirion Thomas

Dechreuodd Tirion wneud y gwaith yma pan sylwodd hi nad oedd cyfleoedd i ferched chwarae rygbi yn Y Bala: "Mae'n bwysig iawn mwynhau dy hun. Mae gan rygbi le mawr yn fy nghalon a sylwes i bod dim cyfleoedd i fi heb sôn am ferched eraill, felly pan glywes i bod 'na ddim hyfforddwr doeddwn i methu gadael i'r tîm fynd i lawr.

"Fe gymres i'r dyletswydd i gadw'r clwb i fynd a nath un peth ddilyn y llall a 'dy ni mewn lle da iawn heddiw.

"Roedd ennill yn golygu llawer i mi ond dydw i heb newid beth roeddwn i'n gwneud.

"Dwi'n mynd o un diwrnod i'r llall fel roeddwn i'n gwneud o'r blaen.

"Doedd dim newid oherwydd dyna beth dwi'n mwynhau gwneud. Mae gweld gwên ar wynebau'r merched yn ddigon i fi."

Ffynhonnell y llun, Tirion Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Tirion yn cynnal sesiwn hyfforddi

Calon dal gyda'r Bala

"Roedd cael y wobr a gweld bod pobl eraill yn sylwi beth o'n i'n rhoi mewn iddo fo yn gymaint o fraint. Roedd o'n teimlo fel mod i 'di gwneud rhywbeth da fan hyn.

"Ma' pobl yn gwerthfawrogi be dwi'n gwneud a roedd gwneud fy ngwaith yn gymaint fwy gwerthfawr."

Erbyn hyn mae Tirion wedi gorfod cymryd cam yn ôl oherwydd ei bod wedi dechrau astudio ym Mhrifysgol Abertawe.

"Hwnna oedd un o'r pethau anoddaf dwi erioed 'di gorfod gwneud. Roedd amseriad y wobr yn braf - doth seibiant yn fy siwrne [hyfforddi] gyda'r wobr honno," meddai Tirion.

"Er fy mod wedi cymryd cam yn ôl ond mae fy nghalon i dal gyda'r Bala yn fawr iawn."

Gyda'r cyfnod enwebu wedi agor ar gyfer Arwr Tawel Cymru, mae Tirion eisiau annog pobl i enwebu eu arwyr tawel lleol nhw.

"Mae cael dy enwebu neu hyd yn oed ennill y wobr yn gallu gwneud gymaint o wahaniaeth i rhywun bach sydd yn gwneud gymaint o waith."

Sut mae enwebu?

Mae'n syml iawn: dywedwch pam mae'ch enwebai yn haeddu bod yn Arwr Tawel, Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn.

Rhowch gynnig ar-lein am Wobr Arwr Tawel

Pynciau cysylltiedig