Gwirfoddoli yng nghanol y pandemig coronafeirws

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Chloe Adams: "Efo popeth sy'n mynd 'mlaen o'n i isio helpu mwy"

A hithau'n wythnos dathlu cyfraniad gwirfoddolwyr, mae cyfraniad pobl sydd yn rhoi eu hamser am ddim i helpu eraill yn cael ei werthfawrogi'n fwy nag erioed.

Gydag ymwelwyr ddim yn cael mynd i weld cleifion ers misoedd, mae Ysbyty Gwynedd yn dibynnu ar wirfoddolwyr i helpu teuluoedd a staff i gario nwyddau o un pen y safle i'r llall.

Un ohonyn nhw ydy Chloe Adams o Lanfairfechan, sydd fel arfer yn gweithio mewn gwesty, ond rŵan ar gyfnod ffyrlo.

Roedd hi'n teimlo fod angen iddi gynnig cymorth i eraill yn ystod yr argyfwng.

'Profiad neis'

"O'n i jyst isho helpu ac efo popeth sy'n mynd 'mlaen rŵan oeddwn i jyst isho helpu mwy," meddai.

"O'n i'n teimlo'n useless yn eistedd adra yn neud dim byd, jyst yn helpu mam a dad, ac wedyn dyma mam yn dweud 'mae na le yma i wirfoddoli', ac wedyn o ni'n edrych arno fo ac isho 'neud o."

Ffynhonnell y llun, PA Media

Ychwanegodd Chloe: "Mae 'na grŵp o tua pump neu chwech ohona ni rŵan sy'n gwneud yr un un job hefo'r porters - so da ni'n gwneud y transfers ac wedyn property.

"Da ni fod i gau'r coridors i Covid-19 patients... a stopio pobl rhag dod i fewn.

"Mae 'na amser neu ddau lle dwi wedi bod yna i'r patient ac maen nhw mor hapus i gael pethau o'r teulu ac wedyn mae'r teulu hefyd yn dweud 'send a message'- so da ni'n mynd fyny hefo messages.

"Mae o'n arbennig - profiad really neis - dwi'n really hoffi fo, a dwi'n hoffi gweithio yma hefyd."

Nôl ar ddechrau cyfnod Covid-19 fe gafodd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr dros 1,800 o geisiadau gan bobl oedd am wirfoddoli.

Yn Ysbyty Gwynedd mae yna tua 10 yn gweithio ar shifftiau sy'n ymwneud â'r cynllun gwirfoddoli Covid-19, gyda degau yn rhagor mewn ysbytai eraill ac yn y gweithio yn y gymuned.

Mae gwaith y gwirfoddolwyr yn amrywio, a rhan bwysig ydy helpu teuluoedd i drefnu dod â phecynnau o adref i gleifion.

'Isho rhoi rhywbeth yn ôl'

Un arall sydd yn gwirfoddoli yn yr ysbyty yw Nev Sutherland o Ynys Môn.

"Mae'n deimlad da i wybod eich bod chi'n helpu rhywun, and that's what it's all about," meddai.

"O'n i jyst eisiau gwneud rhywbeth - fi fel pawb arall sydd wedi defnyddio'r NHS dros y blynyddoedd a jyst isho rhoi rhywbeth bach yn ôl.

"Ar y funud dydy ymwelwyr ddim yn gallu mynd i fyny i'r wards i weld y cleifion, so da ni'n mynd â phethau i fyny iddyn nhw - pethau fatha dillad glân, anrhegion, llythyrau - pethau fel 'na, ac wrth gwrs 'da ni'n dod â phethau lawr o'r cleifion i'r teulu."

Disgrifiad o’r llun,

Nev Sutherland wrth ei waith yn Ysbyty Gwynedd

Ychwanegodd: "Da ni'n gwneud yn siŵr fod pobl yn sanitisio eu dwylo cyn mynd i fewn i'r ysbyty a phan mae cleifion yn troi fyny 'da ni'n deud wrthyn nhw pa adran i fynd a lle maen nhw i fod i fyd am yr appointment.

"Mae pobl yn gwerthfawrogi be da ni'n ei wneud ac mae'n neis clywed doctoriaid a nyrsys a staff yn diolch i ni - mae'n meddwl lot i ni."