Morgannwg ar ei hôl hi yn erbyn Sir Gaerloyw

  • Cyhoeddwyd
Morgannwg v Sir GaerloywFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Llwyddodd Sir Gaerloyw i ymestyn eu cyfanswm i 419 cyn colli'r wiced olaf yn eu batiad cyntaf

Mae Sir Gaerloyw wedi cymryd rheolaeth o'r gêm yn erbyn Morgannwg ym Mhencampwriaeth y Siroedd yng Nghaerdydd gyda pherfformiad cryf ddydd Mawrth.

Fe wnaeth Sir Gaerloyw ddechrau'r trydydd diwrnod ar sgôr o 224-4 wrth ymateb i fatiad cyntaf Morgannwg o 309.

Fe lwyddon nhw i ymestyn eu cyfanswm i 419 cyn colli eu wiced olaf, gyda Tom Price yn serennu ddydd Mawrth gyda 71 o rediadau.

Roedd hyn yn golygu bod gan yr ymwelwyr fantais o 110 o rediadau ar ddiwedd y batiad cyntaf, ac i wneud y sefyllfa'n waeth fe gafodd Morgannwg ddechrau trychinebus i'w hail fatiad.

Fe gollon nhw chwe wiced brynhawn Mawrth, gan olygu y bydden nhw'n dechrau'r diwrnod olaf ar sgôr o 57-6 - 53 rhediad tu ôl i Sir Gaerloyw.

Pynciau cysylltiedig