Y Gynghrair Genedlaethol: Grimsby 3-1 Wrecsam
- Cyhoeddwyd
Fe wnaeth Wrecsam golli eu gêm gyntaf o'r tymor yn y Gynghrair Genedlaethol nos Fawrth wrth i'r Cymry gael eu trechu oddi cartref yn erbyn Grimsby.
Aeth yr ymwelwyr ar y blaen wedi 22 gyda gôl gan Jake Hyde, cyn i Grimsby daro 'nôl pum munud yn ddiweddarach wrth i Ryan Taylor rwydo.
Llwyddodd y tîm cartref i fynd ar y blaen ar ôl 34 munud wedi i Luke Waterfall benio cic gornel Alex Hunt heibio i'r golwr Rob Lainton.
Ychwanegodd Max Wright drydedd gôl i Grimsby yn y munud olaf er mwyn selio'r fuddugoliaeth i'r tîm cartref.
Mae'r canlyniad yn golygu bod Wrecsam yn aros yn yr wythfed safle yn y Gynghrair Genedlaethol am y tro, wedi ennill dwy, colli un a chael tair gêm gyfartal yn eu chwe gêm hyd yma.