Presenoldeb Llywodraeth Cymru mewn ffair arfau i barhau
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu parhau i fynychu un o ffeiriau arfau mwyaf y byd, gyda "nifer fach" o swyddogion yn mynychu'r digwyddiad eleni.
Mae Aerospace Wales hefyd yn derbyn cefnogaeth ariannol gan y llywodraeth i fynychu'r digwyddiad amddiffyn 'Defence and Security Equipment International' (DSEI) yn Llundain.
Mae'n dilyn adolygiad o bresenoldeb Llywodraeth Cymru yn dilyn y digwyddiad DSEI diwethaf yn 2019.
Mae Plaid Cymru yn beirniadu'r llywodraeth am wario arian cyhoeddus ar "y digwyddiad dirmygus hwn", tra dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig ei bod yn "iawn fod Llywodraeth Cymru yn bresennol i gefnogi busnesau Cymru yn y digwyddiad".
Mae DSEI yn cael ei gynnal bob dwy flynedd ac yn cael ei gefnogi gan Weinyddiaeth Amddiffyn Llywodraeth y DU.
Mae llywodraeth Geidwadol y DU wedi gwahodd 62 o wledydd, dolen allanol i'r digwyddiad eleni, gan gynnwys gwledydd fel yr Aifft, Saudi Arabia a Colombia, oedd ar restr, dolen allanol o "wledydd blaenoriaeth hawliau dynol" 2019 y llywodraeth.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU: "Mae allforion amddiffyn a diogelwch yn cefnogi 250,000 o swyddi ledled y DU ac yn cyfrannu dros £1.8 biliwn i'r economi.
"Rydyn ni bob amser yn cynnal gwiriadau llym cyn gwahodd llywodraethau tramor i uwchgynadleddau yn ymwneud ag allforion, gan gynnwys DSEI 2021," ychwanegodd.
Mae Llywodraeth Cymru wedi bod â phresenoldeb yn y sioe am y 10 mlynedd diwethaf, gan gynnwys stondin yn 2019, tra bod gweinidogion yn bresennol yn 2015 a 2017.
Mae'r llywodraeth wedi talu i Aerospace Forum Wales "arwain presenoldeb Cymru" yn y digwyddiad eleni, wnaeth ddechrau yn Llundain ddydd Mawrth.
'Cyflogi mwy na 18,000'
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod "nifer fach" o swyddogion hefyd wedi cael eu hanfon er mwyn cefnogi cwmnïau "gyda phresenoldeb yng Nghymru fel Airbus, Thales, General Dynamics, Jacobs a Qinetiq".
Ychwanegodd llefarydd: "Mae'r cwmnïau hyn yn rhan fawr o sectorau awyrofod, seiber-ddiogelwch ac amddiffyn Cymru sydd â gwerth cyfunol o leiaf £4bn ac sy'n cyflogi mwy na 18,000 o bobl yng Nghymru.
"Bydd swyddogion Llywodraeth Cymru hefyd yn ymgysylltu â chwmnïau sydd am fuddsoddi yng Nghymru a byddant yn cwrdd â nifer o fusnesau bach a chanolig ynghylch buddsoddi, arloesi a chyfleoedd i greu swyddi."
Mae Aerospace Forum Wales yn disgrifio'i hun fel y "gymdeithas fasnach ar gyfer pob cwmni sy'n gweithredu yn y sectorau awyrofod, amddiffyn a gofod yng Nghymru".
Dywedodd John Walley, Prif Weithredwr Aerofod Cymru: "Rydym yn credu ei bod yn bwysig i'r DU a Chymru o safbwynt diogelwch cenedlaethol; nid wyf yn credu ei fod e'n iawn os ydyn ni'n diddymu'r cyfrifoldeb am amddiffyn y wlad."
Cefnogwyd chwe chwmni o Gymru i ymuno â Llywodraeth Cymru yn nigwyddiad 2019.
Yn siarad ar y pryd, dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford y byddai'n adolygu presenoldeb ei lywodraeth mewn digwyddiadau yn y dyfodol.
Ond dywedodd fod swyddogion yn bresennol "i gefnogi cwmnïau pwysig o Gymru sy'n gweithredu, nid yn uniongyrchol yn y maes arfau, ond mewn materion eraill, fel seiberddiogelwch."
Ers hynny, mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau bod Radnor Range, cwmni sy'n profi arfau a ffrwydron, yn un o'r rheiny oedd ar y stondin.
Mewn ymateb i gais o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth gan wefan Declassified UK, dolen allanol, dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod wedi gwario £85,350 ar ddigwyddiad DSEI 2019 a £9,851.28 ar dreuliau i 12 swyddog.
Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar faterion rhyngwladol, Heledd Fychan: "Mae Plaid Cymru yn condemnio unrhyw gamau sy'n cefnogi datblygu a gwerthu arfau dinistr torfol.
"Dylai Llywodraeth Cymru fod yn gweithio i atal gweithredu o'r fath, ond yn lle hynny maen nhw'n rhoi arian cyhoeddus tuag at gefnogaeth barhaus y digwyddiad dirmygus hwn," ychwanegodd.
'Sector hanfodol bwysig'
Dywedodd llefarydd ar ran y Ceidwadwyr Cymreig: "Mae'r sector hanfodol bwysig hon werth mwy na £19bn i economi'r DU ac mae Cymru'n cael medi'r buddion o'r swyddi y mae'r sector yn eu darparu.
"Rydym yn falch mai Cymru yw sylfaen gweithrediadau amddiffyn y DU, boed yn hyfforddiant gweithlu'r diwydiant amddiffyn neu'r argaeledd yma o ran safleoedd diogel a gofod awyr - mae Cymru wedi, a bydd yn parhau, i chwarae rhan hanfodol yn amddiffyn a diogelwch Prydain.
"Mae'n iawn fod Llywodraeth Cymru yn bresennol i gefnogi busnesau Cymru yn y digwyddiad, ac rydym yn gobeithio nad yw unrhyw gytundebau cydweithredu â Phlaid Cymru yn y dyfodol yn golygu rhoi'r gorau i gefnogi busnes Cymru yn y sector."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Medi 2019
- Cyhoeddwyd15 Mehefin 2017