Bydd gan Jane Dodds 'neges unigryw' medd Ed Davey

  • Cyhoeddwyd
Jane Dodds
Disgrifiad o’r llun,

Jane Dodds yw'r unig Ddemocrat Rhyddfrydol yn Senedd Cymru

Dywed arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol fod unig Aelod o'r Senedd y blaid yn iawn i beidio â bod yn rhan o drafodaethau i daro bargen â Llywodraeth Cymru.

Yn wahanol i gyn-Weinidog Addysg y Democratiaid Rhyddfrydol, Kirsty Williams, mae Jane Dodds ymhlith y gwrthbleidiau yn y Senedd.

Dywedodd Syr Ed Davey y byddai'n caniatáu i Ms Dodds gael "neges unigryw".

Ond dywedodd hefyd na chynigiwyd i Ms Dodds ddod yn weinidog yn y llywodraeth dan arweiniad Llafur.

Ar hyn o bryd mae Plaid Cymru mewn trafodaethau gyda gweinidogion Llafur ynghylch cytundeb cydweithredu posib.

Yn brin o glymblaid, efallai y bydd yn gweld y pleidiau'n gweithio gyda'i gilydd ar y gyllideb a diwygiadau'r Senedd, megis ehangu nifer yr aelodau.

Enillodd Llafur sedd ychwanegol yn etholiad 2021 ond maen nhw'n parhau heb reolaeth lawn ar y siambr 60 sedd, gydag union hanner y seddi sydd ar gael.

Er i Mark Drakeford gael ei ail-gadarnhau fel prif weinidog, mae'n anodd i'r blaid lywodraethu'n llawn heb rywfaint o gefnogaeth gan y gwrthbleidiau.

Ar ôl etholiad 2016 gwahoddodd y Prif Weinidog Carwyn Jones yr AS Kirsty Williams i ymuno â'r llywodraeth.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Daeth Ed Davey yn arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol y llynedd

Nododd Syr Ed na wnaed unrhyw gynnig tebyg ar ôl etholiad 2021 - gan ddweud na fu "unrhyw opsiwn" i Ms Dodds fod yn rhan o'r llywodraeth.

Fe wnaeth Kirsty Williams sefyll i lawr yn etholiad 2021 - collwyd ei sedd, sef Brycheiniog a Sir Faesyfed, i'r Torïaid, ond etholwyd Jane Dodds trwy restr ranbarthol Canolbarth a Gorllewin Cymru.

Pan ofynnwyd iddo a fyddai'n well ganddo i arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru fod yn y trafodaethau cydweithredu yn lle Plaid Cymru, dywedodd: "Na."

Wrth siarad cyn cynhadledd hydref ei blaid, dywedodd wrth BBC Politics Wales: "Roedd Jane yn iawn i ddweud y bydd yn wrthwynebus i'r llywodraeth Lafur yn y Senedd.

"Rwy'n credu bod hynny'n iawn oherwydd mae angen i ni ddangos bod gennym neges unigryw."

Ychwanegodd: "Nid oedd unrhyw gynnig inni fynd i mewn i'r llywodraeth ac nid oes opsiwn iddi wneud yr hyn yr oedd Kirsty yn gallu ei wneud.

"Rwy'n cefnogi Jane Dodds yn llwyr wrth iddi ddweud ei bod am fod yn wrthblaid annibynnol, a chael llais y Democratiaid Rhyddfrydol dros ein blaenoriaethau, p'un ai ar gyfer rhieni, gofalwyr neu fusnesau bach, neu'r amgylchedd".

Daeth Syr Ed yn arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn y DU y llynedd, ar ôl i Jo Swinson golli ei sedd yn etholiad cyffredinol 2019.

Gwyliwch y cyfweliad llawn ar Politics Wales, dydd Sul, BBC One Wales am 10:00.