Llafur a Phlaid Cymru yn ceisio dod i gytundeb

  • Cyhoeddwyd
Mark Drakeford ac Adam PriceFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae grwpiau’r Prif Weinidog Mark Drakeford ac Adam Price mewn trafodaethau ynghylch cytundeb cydweithredu

Mae Llywodraeth Llafur Cymru a Phlaid Cymru yn ceisio dod i gytundeb ar "gydweithredu uchelgeisiol i'w seilio ar nifer o flaenoriaethau polisi penodol".

Mewn datganiad ar y cyd, dywed y ddwy y bu "trafodaethau dechreuol adeiladol".

Eu bwriad yw "edrych ar ffyrdd o adeiladu cenedl fwy cyfartal, cyfiawn a democrataidd i bawb".

Maen nhw hefyd eisiau sicrhau "trefniadau llywodraethiant lle gall Llywodraeth Llafur Cymru a Phlaid Cymru weithio gyda'i gilydd i gyflawni dros Gymru".

'Dyfodol cryfach'

Dywed y datganiad, "wrth i Gymru baratoi am ddyfodol cryfach tu hwnt i'r pandemig coronafeirws; wrth ymateb i argyfwng yr hinsawdd ac i ganlyniadau parhaus ymadael â'r Undeb Ewropeaidd; a'r bygythiad i ddatganoli mae'n bwysicach nac erioed bod pleidiau gwleidyddol yn cydweithio ar ran pobl Cymru pryd bynnag y bydd ganddynt ddiddordebau cyffredin."

Dywedwyd wrth BBC Cymru nad yw'r ddwy ochr yn trafod clymblaid, ac nad oes disgwyl i Blaid Cymru ymuno â'r llywodraeth.

Ymateb y pleidiau eraill

Wrth ymateb dywedodd arweinydd grŵp y Ceidwadwyr yn y Senedd, Andrew RT Davies: "Does ond angen edrych ar raglen bolisi Llafur Cymru i weld eu bod yn hesb o syniadau. Ond mae troi at genedlaetholwyr heb fandad yn weithred o anobaith a gwallgofrwydd."

Ac meddai arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, Jane Dodds: "Nawr yn fwy nag erioed mae'n bwysig bod pleidiau'n gallu gweithio gyda'i gilydd i fynd i'r afael â'r materion mawr sy'n effeithio ar Gymru.

"Rwy'n edrych ymlaen at weld y manylion, ond yn sicr fe fyddaf fel arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn parhau i fynnu am fwy i bobl gyffredin ledled Cymru a'u dwyn i gyfrif."

Mae gan Lafur 30 sedd yn y Senedd, a Phlaid Cymru 13.

Gan na enillodd Llafur fwyafrif mae angen pleidleisiau arnynt gan y gwrthbleidiau i basio cyllidebau a deddfau.