Cwpan y Byd Merched 2023: Ai dyma'r ymgyrch i Gymru?
- Cyhoeddwyd
"Ai dyma'r ymgyrch 'da ni am weld Cymru o'r diwedd yn cyrraedd y rowndiau terfynol?"
Dyma'r cwestiwn oedd ar wefusau pawb wrth holi'r chwaraewyr yng Ngwesty'r Fro ar gyrion Caerdydd yn gynharach yn yr wythnos.
Dydy Cymru erioed wedi chwarae yn un o'r prif gystadlaethau rhyngwladol.
Maen nhw wedi dod yn agos at gyrraedd y gemau ail-gyfle yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd a'r Ewros dros y blynyddoedd diwetha', ond maen nhw wedi boddi wrth ymyl y lan fwy nag unwaith.
Gwyliwch pob un o gemau Cymru yn ymgyrch Cwpan y Byd 2023 yn fyw ar wefan Cymru Fyw.
Cymru v Kazakhstan; 17 Medi, 19:15.
Estonia v Cymru; 21 Medi.
Cymru v Estonia; 26 Hydref, 19:15.
Cymru v Groeg; 26 Tachwedd, 19:15.
Ffrainc v Cymru; 30 Tachwedd.
Ar drothwy gemau rhagbrofol Cwpan y Byd Merched 2023, be' am obeithion y garfan bresennol o greu ychydig o hanes? Mae 'na sawl rheswm i fod yn obeithiol.
I ddechrau maen nhw wedi cael grŵp ffafriol. Ffrainc fydd y ffefrynnau i orffen ar y brig, ond fe ddylse Cymru orffen yn yr ail safle o leiaf.
Maen nhw'n dîm gwell na Slofenia, Groeg, Kazakhstan ac Estonia.
Yn ail mae'n ymddangos fod penodiad Gemma Grainger fel rheolwr yn un hynod o boblogaidd ymysg y chwaraewyr.
Mi oedd Jayne Ludlow wedi gwneud gwaith arbennig yn ystod ei chyfnod o saith blynedd wrth y llyw, ond mi oedd angen newid.
Ac o beth yr ydym wedi ei weld yn ystod y gemau cyfeillgar diweddar mae Grainger yn awyddus i chwarae gêm ychydig yn fwy ymosodol.
Yn olaf mae hi'n bosib dadlau mai hon yw'r garfan gryfaf erioed yn hanes y tîm.
Mae 'na lot o brofiad yn perthyn i'r garfan gan fod chwaraewyr fel Sophie Ingle a Jessica Fishlock wedi ennill dros 100 o gapiau.
Ac wedyn, mwyaf sydyn, mae 'na chwaraewyr iau a thalentog fel Esther Morgan, Lily Woodham, Anna Filbey a Carrie Jones wedi ymddangos.
"Dyma'r garfan fwyaf cyffrous dwi wedi bod yn rhan ohoni. Mae hi'n garfan llawn potensial sydd â'r gallu i gyrraedd Cwpan y Byd," meddai'r ymosodwr Natasha Harding.
Mae hi'n argoeli i fod yn ymgyrch gyffrous i Gymru, ac mae'n hynod bwysig eu bod nhw'n dechrau'n dda yn erbyn Kazakhstan nos Wener ac yn erbyn Estonia nos Fawrth nesaf.
Does 'na ddim rheswm pam na all y garfan fod yn chwarae'n y rowndiau terfynol yn Awstralia a Seland Newydd yn 2023.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Medi 2021