Drakeford: 'Ni bron yn ôl i sut oedd cymdeithas cyn Covid'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
dyn yn cael brechlynFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae llwyddiant y rhaglen frechu yn golygu ein bod ni'n agosáu at normalrwydd eto, meddai Mark Drakeford

Mae'r Prif Weinidog wedi dweud fod bywydau pobl Cymru "bron yn ôl" i sut oedd pethau cyn Covid, a bod y rhaglen frechu wedi cyfrannu'n fawr at hynny.

Ond rhybuddiodd Mark Drakeford y byddai dychwelyd i normalrwydd llwyr ond yn bosib os oedd pobl yn gwneud popeth allen nhw i osgoi gweld cynnydd arall mewn achosion dros y gaeaf.

Wrth siarad ar raglen Dewi Llwyd ar Fore Sul ar BBC Radio Cymru, dywedodd hefyd ei fod yn gwerthfawrogi cefnogaeth pobl Cymru wrth iddo orfod gwneud "penderfyniadau anodd" yn ystod y pandemig.

Ychwanegodd nad oedd wedi magu diddordeb "o gwbl" mewn bod yn brif weinidog yn gynharach yn ei yrfa, ac mai "mater o hap" oedd hi ei fod wedi cyrraedd y brif swydd.

'Bron 'nôl lle oedden ni'

Er bod achosion Covid wedi bod yn codi dros yr wythnosau diwethaf, dywedodd y prif weinidog fod y gwasanaeth iechyd yn dal i allu ymdopi gyda'r nifer oedd angen triniaeth ysbyty ac felly nad oedd y sefyllfa allan o reolaeth eto.

Ond rhybuddiodd y byddai'n rhaid ystyried cymryd camau unwaith eto i daclo'r feirws os oedd y sefyllfa honno'n gwaethygu wrth agosáu at y gaeaf.

"Mae yn ein dwylo ni i gyd, mae nifer y bobl sy'n dioddef o coronafeirws yng Nghymru yn mynd lan bob dydd," meddai Mr Drakeford.

"Ond mae'r brechlyn wedi newid y berthynas rhwng cwympo'n dost a bod mor dost bydd rhaid i chi gael triniaeth yn yr ysbyty."

Mark DrakefordFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Mark Drakeford yn wyneb cyfarwydd i lawer mwy o bobl Cymru ers y pandemig

Ychwanegodd mai'r "peth mwyaf effeithiol allwn ni wneud yw cymryd y brechlyn".

"Os allwn ni berswadio mwy o bobl i ddod ymlaen, hwnna fydd y peth gorau allwn ni 'neud i gario 'mlaen fel 'dan ni nawr, ble ni bron yn ôl ble oedden ni cyn oedd coronafeirws yn dechrau," meddai.

Dywedodd ei fod hefyd yn "lwcus" fod y rhan fwyaf o bobl Cymru yn deall pam y bu'n rhaid i'w lywodraeth wneud "penderfyniadau anodd" yn ystod y pandemig.

"Ar y cyfan mae pobl yng Nghymru wedi cefnogi beth ni'n 'neud, ac mae hwnna'n help mawr."

'Theatr' y Senedd

Doedd gan Mark Drakeford ddim proffil gwleidyddol uchel iawn tu hwnt i Fae Caerdydd cyn iddo ddod yn Brif Weinidog yn 2018, ond newidiodd hynny gyda'r pandemig wrth iddo ddod yn wyneb cyfarwydd ar y teledu yng nghynadleddau'r wasg.

Daeth hynny â llwyth gwaith ychwanegol hefyd, wrth gwrs, ac fe gyfaddefodd Mr Drakeford fod yr oriau hir o weithio drwy'r argyfwng wedi golygu nad yw wedi gweld cymaint ar ei deulu dros y misoedd diwethaf.

"Dwi byth eisiau edrych yn ôl a meddwl dwi ddim wedi gwneud y penderfyniadau gorau achos dwi ddim wedi ffeindio'r amser i neud y gwaith cyn neud nhw," meddai.

"Os dwi'n cwyno pan dwi adref ambell waith, mae pobl yn dweud wrtha i 'well you don't have to do this do you!'"

Mark Drakeford a Dewi Llwyd
Disgrifiad o’r llun,

Mark Drakeford oedd y gwestai pen-blwydd ar raglen Dewi Llwyd ar Fore Sul

Dywedodd hefyd nad oedd wedi newid ei feddwl ynglŷn â rhoi'r gorau i'r swydd cyn yr etholiad Senedd nesaf, gan ddweud bod elfennau o'r swydd nad yw'n mwynhau cymaint.

"Mae rhai pethau dwi ddim yn edrych ymlaen at, fel Cwestiynau'r Prif Weinidog, achos theatr yw e," meddai.

Ychwanegodd fod bod yn brif weinidog Cymru erioed wedi bod yn un o'i uchelgeisiau, ac mai dim ond wedi iddo olynu Rhodri Morgan fel AC Gorllewin Caerdydd yn 2011 y daeth hynny'n bosibiliad.

"Ar ddiwedd y dydd o'n i'n meddwl dwi ddim isie edrych yn ôl mewn blynyddoedd i ddod a meddwl o'n i ddim wedi treial," meddai.

Trip mewn balŵn aer

Wrth i drafodaethau barhau rhwng Llafur a Phlaid Cymru ar gyfer cydweithio yn y Senedd hon, dywedodd Mark Drakeford fod ganddo dal heriau "anodd" y mae am eu cyflawni cyn iddo adael y swydd.

Yn eu plith, meddai, mae diwygio'r dreth gyngor sydd ar hyn o bryd yn system "annheg" ac yn seiliedig ar hen asesiadau o dai.

Dywedodd ei fod hefyd yn teimlo'n rhwystredig, ar ôl dros 20 mlynedd o ddatganoli, ei bod hi "wedi cymryd pandemig i ddangos bobl yng Nghymru y pwerau sydd 'da ni'n barod".

Mae ei waith fel prif weinidog yn golygu nad yw'n cael cymaint o amser ar hyn o bryd i roi sylw i rai o'i ddiddordebau eraill, gan gynnwys garddio ar ei randir a gwylio tîm criced Morgannwg.

Ond beth am ei anrheg pen-blwydd delfrydol - ag yntau'n westai pen-blwydd ar raglen Dewi Llwyd wrth iddo droi'n 67 oed?

"Mynd lan mewn balŵn," meddai'r prif weinidog. "Byddai hwnna'n arbennig o dda!"