Cwpwl o Wynedd yn ofni colli dros hanner eu busnes

  • Cyhoeddwyd
Cae Clyd

Mae'r drefn gynllunio'n cael ei disgrifio fel un "llafurus, costus a phoenus" gan deulu o Wynedd sydd yn brwydro i gadw ei maes carafanau yn lawn agored.

Mae yna le i ryw 80 o garafanau yng Nghae Clyd, Pontllyfni ar hyn o bryd. Ond pan ddaw'r tymor i ben ddiwedd Hydref eleni, fydd dim modd i Eleri ac Arwel Hughes barhau i ddefnyddio dau o'r tri chae sydd ganddyn nhw ar hyn o bryd.

"Ddaru ni gychwyn yn 2008 ac mae gynnon ni gais cynllunio ar y cae cyntaf. Ond, o fewn ychydig iawn o ddyddiau, roedd yna gymaint o alw fe naethon ni agor y ddau gae arall. Yma mae'r anghydfod."

"Lle mae caniatâd cynllunio yn y cwestiwn, yn anffodus mae'r ddau gae ar flood plain."

"Ond mi ddaeth y swyddogion yma a gofyn ers faint oeddan ni'n rhedeg y lle? Dyma ni'n dweud 2008, a hynny'n defnyddio'r tri chae. Dyma nhw'n cynnig - 'pam na ewch chi am drwydded?' A dyna fu."

"Dyma ni'n casglu tystiolaeth. Fe gafon ni gwsmeriaid oedd wedi bod hefo ni ers 2008 yn anfon llythyrau. Cafodd y cais ei roi i mewn. Ond, flwyddyn a hanner yn ddiweddarach, fe gafon ni wybod fod y cais wedi'i wrthod."

Disgrifiad o’r llun,

Fe ddywed Eleri ar Arwel Hughes fod y broses wedi cymryd tair blynedd yn barod

Yn dilyn archwiliad chafodd y dystysgrif datblygiad cyfreithlon ddim mo'i chaniatáu yn ôl Cyngor Gwynedd "ar y sail nad oedd tystiolaeth gadarn i brofi, ar gydbwysedd tebygolrwydd, fod y defnydd wedi ei weithredu am ddeng mlynedd neu fwy".

"Yna, yn fuan yn 2020 cyflwynwyd rhybudd gorfodaeth ar gwmni Cae Clyd, yn sgil tystiolaeth gadarn o dorri rheolaeth gynllunio oherwydd datblygiadau anawdurdodedig a oedd yn groes i bolisïau cynllunio'r Cyngor."

"Eleni, apeliwyd yn erbyn y rhybudd gorfodaeth ar amryw o seiliau, ac fe wrthododd yr Arolygiaeth Gynllunio'r mwyafrif o'r seiliau apêl."

"Mae Gwasanaeth Cynllunio'r Cyngor yn gweithio yn unol â'r gofynion statudol sydd wedi ei eu gosod mewn deddfwriaeth cynllunio cenedlaethol. Mae amserlen unrhyw gais yn ddibynnol ar ba mor gymhleth yw'r materion cynllunio sy'n gysylltiedig â'r cais ac ansawdd yr wybodaeth sy'n cael ei gyflwyno fel rhan o'r cais."

Mae'r holl broses wedi cymryd tair blynedd yn ôl Eleri Hughes.

"Mae hi wedi bod yn broses lafurus, costus a phoenus. Ddim i ni yn unig - i'n cwsmeriaid ni hefyd. Ac yn ystod Covid rydan ni wedi cael mwy o garafanau sydd wedi'u lleoli yma. Mae yna 30 hefo Cymry Cymraeg - 15 o'r ardal yma."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Glaslyn ac Ann Hughes wedi bod yn mynd i Gae Clyd ers blynyddoedd

Dau sydd wedi bod yn mynd i Gae Clyd ers blynyddoedd ydi Glaslyn ac Ann Hughes o Rosgadfan. Mae'r hyn sy'n digwydd meddan nhw yn dorcalonnus, ac maen nhw'n wynebu - o bosib - gorfod gwerthu eu carafán.

"Mae hwn yn drychineb i ni fel cwpl," yn ôl Glaslyn Hughes. "Rydan ni wedi cael amser da yma. Ers Covid rydw i wedi bod yn dioddef hefo canser ac mae'r wraig wedi bod yn dioddef hefo salwch meddwl. Fan hyn ydi'r unig le lle da ni'n medru dŵad."

Gydag achosion tebyg mewn rhannau eraill o Gymru mae rhai yn galw am ddiwygio'r drefn. Yn ôl Gwynedd Watkin o Undeb Amaethwyr Cymru mae'n "rhwystredig fod hyn yn digwydd er y polisi cenedlaethol gan Lywodraeth Cymru i ehangu ar safleoedd presennol yn hytrach na sefydlu rhai newydd."

"Dwi ddim yn siŵr os ydi'r polisi yna yn un cywir. Ond os mai dyna'r polisi, yna pam fod hi mor anodd i rywun gael caniatâd i ehangu.

"Da ni'n derbyn bod angen rheolau. Be sy'n rhwystredig ydi'r ffaith fod y rheolau yna, ambell waith, yn cael eu dehongli'n rhy llym."

Disgrifiad o’r llun,

Yn ol Gwynedd Watkin, mae'r rheolau'n cael eu dehongli yn rhy llym

Mae Mark Roberts yn ymgynghorydd ar gyfraith cynllunio. Mae'n cynrychioli teulu Cae Clyd ac eraill sydd mewn sefyllfaoedd tebyg.

"Mae pob math o geisiadau yn cymeryd yn hir - nid yn y gogledd yn unig, ond trwy Gymru gyfan. Mae hynny yn codi cwestiwn wedyn ydi pobl eisiau buddsoddi yng Nghymru?

"Ydi'n cymdeithasau gwledig ni yn cael chwarae teg? Mae hwn yn rhywbeth sy'n mynd at wraidd Llywodraeth Cymru, ac mae'n rhywbeth dwi wedi godi hefo nhw o'r blaen."

Fe wnaed cais am ymateb gan Lywodraeth Cymru.

Nôl ym Mhontllyfni mae hi'n fwriad gan Eleri Hughes a'r teulu i ddechrau o'r dechrau a chyflwyno cais o'r newydd, ar waetha'r gost a'r siom hyd yma.

"Rhowch un rheswm pendant, cryf a chyfiawn am gau Cae Clyd - yna, mi wnaf. Mi wnâi roi fy nwylo fyny os oes rhywun yn dweud fod y lle 'ma yn swnllyd neu'n friw i'r llygaid. Ond ar y funud - ar fy marw - fedrai ddim meddwl pam fod angen cau dau gae yma yng Nghae Clyd."

Pynciau cysylltiedig