Busnesau twristiaeth yn 'gobeithio am y gorau' eleni
- Cyhoeddwyd
Mae gobaith i'r diwydiant twristiaeth yng Nghymru am y flwyddyn i ddod, er gwaethaf effaith "ddinistriol" pandemig Covid-19, yn ôl perchnogion busnes.
Dangosodd data Llywodraeth Cymru fod lefelau ymwelwyr ym mhob sector o'r diwydiant twristiaeth wedi gostwng yn ddramatig yn 2020.
Fodd bynnag, ym mis Awst a mis Medi, pan nad oedd y cyfyngiadau ar eu llymaf, roedd cyfraddau ymwelwr yn y mwyafrif o sectorau yn debyg neu'n well nag yn y ddwy flynedd flaenorol.
Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod wedi neilltuo £180m i gefnogi twristiaeth.
Yn ôl y data, roedd 66% o ystafelloedd gwestai yn llawn yn 2018 a 2019 , ond gostyngodd y nifer hon i 39% ar gyfartaledd rhwng mis Mawrth a mis Medi 2020 o ganlyniad i gyfyngiadau cloi.
Cafodd busnesau sydd heb gyfleusterau sy'n rhai eu rhannu ailagor eto ar 11 Gorffennaf, gan arwain at atgyfodiad yn y ffigurau dros fisoedd yr haf.
Ym mis Awst a mis Medi, roedd cyfraddau ymwelwyr mewn gwestai yn 71% a 67%, sydd yn is na chyfartaleddau'r ddwy flynedd flaenorol o 78% a 75%, ond yn llawer nes at dymor nodweddiadol.
A chofnododd llety hunanarlwyo a gwely a brecwast gyfraddau deiliadaeth uwch dros y ddau fis hynny yn 2020 nag yn y ddwy flynedd flaenorol.
Tymor 'ffynnianus' yr haf
Dywedodd Lynette Esposito, sy'n berchen ar Westy'r Elm Tree yn Llandudno, Conwy, fod 2020 wedi bod yn "hollol ofnadwy", a bod effaith y pandemig wedi bod yn "ysgytwol" ac yn "ddinistriol" i'w busnes.
Ychwanegodd, nid yn unig fod y gwesty wedi methu sicrhau busnes am ei fod wedi cau, ond ei fod hefyd wedi ysgwyddo costau rhedeg ychwanegol er mwyn cadw at y rheoliadau.
"Rwy'n credu, gyda'r cyfyngiadau a'r canllawiau y mae'n rhaid i ni eu dilyn, ei fod yn bendant wedi cael effaith ar sefydliadau lle byddai'ch gwasanaeth yn dod â phobl at ei gilydd yn awtomatig mewn un ystafell," meddai Ms Esposito.
"Cynyddodd y costau. Ni allem wneud ein bwffe agored arferol. Gan ein bod yn westy roedd yn rhaid i chi gymryd mwy o ofal wrth sicrhau bod pawb yn ddiogel, gan gofio bod llawer mwy o fannau cyffredin - mae gennym lifft, bar a lolfa."
Ond er gwaethaf cau pedair o'r 14 ystafell yng Ngwesty'r Elm Tree i helpu gyda phellter cymdeithasol, dywedodd Ms Esposito fod busnes yn well na'r arfer ar ôl ailagor.
"Fe gaethon ni ddau fis llawn a oedd yn fywiog iawn ac yn gryf iawn ... roedd Awst a Medi'n well na'r flwyddyn flaenorol."
Dywedodd fod y cynnydd hwn yn y galw ddiwedd yr haf y llynedd yn argoeli'n dda ar gyfer y flwyddyn i ddod, ar yr amod bod cyfyngiadau yn caniatáu gwyliau yn y DU dros yr haf.
"Rwy'n credu pan fyddwn yn cael agor y byddwn yn gweld cynnydd sylweddol yn y galw," meddai.
"Rwy'n credu y byddwn ni'n cael tymor da iawn. Mae pobl yn ysu am gael mynd allan eto ac rwy'n credu y bydd defnyddwyr yn elwa o hynny."
Fe wnaeth Llywodraeth Cymru gynnal arolwg o fusnesau o chwe sector gwahanol o'r diwydiant twristiaeth.
O'r rheini, cofnododd llety hunan-arlwyo a gwestai bach gyfraddau ymwelwyr uwch ym mis Awst a mis Medi nag yn 2018 a 2019.
Dim ond ychydig dros hanner o gartrefi carafanau sefydlog oedd yn llawn ym mis Awst, ond wrth iddyn nhw fod 92% yn llawn ym mis Medi, cofnododd y sector hwn gyfraddau uwch nag yn yr un mis yn 2018 a 2019.
Cofnododd parciau carafanau a gwersylla teithiol ffigyrau ychydig yn is, tra gwelodd hosteli ostyngiadau sylweddol yn nifer yr ymwelwyr.
Mae gwersylla yn sector arall sydd wedi cael ei daro'n wael gan y pandemig, yn enwedig ar gyfer safleoedd sy'n defnyddio cyfleusterau sy'n cael eu rhannu.
Dywedodd perchennog maes pebyll Broadstone, sydd ar ddwy ochr y ffin rhwng Sir Fynwy a Swydd Gaerloyw, ei fod yn "ffyddiog" ar gyfer tymor 2021 er gwaethaf blwyddyn anodd yn 2020.
"Cafodd [y cyfnod clo] effaith niweidiol arnom ni," meddai Jeff Revill.
"Pan oeddem ar agor, roedd yn dda, roeddem yn eithaf prysur hyd yn oed pan oedd rhai cyfyngiadau ar waith o hyd. Mae'n debyg i ni mai'r cyfyngiadau wnaethon ni eu cyflwyno ein hunain wnaeth ein hatal rhag gwneud hyd yn oed mwy o fusnes.
"Wnaethon ni ddim llenwi'r maes gwersylla i'w gapasiti llawn. Roedd hi'n fis Awst da ond gallen ni fod wedi gwneud mwy."
Cymorth ariannol 'hael'
Mae cwmnïau gwyliau'r DU wedi dweud bod disgwyl i arosiadau gynyddu'n sylweddol yn 2021 ar ôl i'r cyfnod clo ddod i ben.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym wedi ymrwymo i wneud popeth o fewn ein gallu i amddiffyn busnesau yn ystod yr amser heriol hwn.
"Ein pecyn cymorth yw'r mwyaf hael yn y DU ac mae mwy na £1.7bn o gymorth ariannol Llywodraeth Cymru wedi cyrraedd busnesau ar draws pob sector ers mis Mawrth.
"Mae arian eisoes yn cyrraedd busnesau twristiaeth, lletygarwch a hamdden o'r gronfa sector-benodol gwerth £180m a agorodd ddydd Mercher 13 Ionawr."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd27 Hydref 2020