Twristiaeth: Y canolbarth yn 'brysurach nag erioed'
- Cyhoeddwyd
Mae canolbarth Cymru yn brysurach nag erioed o'r blaen yn nhermau nifer yr ymwelwyr, yn ôl cadeirydd bwrdd twristiaeth yr ardal.
Fe ddaw hynny â'i heriau, gyda galw am fuddsoddiad er mwyn manteisio yn economaidd am flynyddoedd i ddod.
Mae prysurdeb ar arfordir Cymru yn golygu bod nifer o fusnesau yn cael trafferth recriwtio staff.
Daw awgrym hefyd bod cyflogau is mewn ardaloedd gwledig yn gwneud pethau yn fwy heriol.
'Edrych i'r dyfodol'
Mae Rowland Rees-Evans yn gydberchennog ar faes carafanau Parc Penrhos yn Llanrhystud. Ers misoedd mae'r llyfrau wedi bod yn llawn.
Dywedodd Mr Rees-Evans, sydd hefyd yn gadeirydd ar Fwrdd Twristiaeth Canolbarth Cymru: "Ni gyd wedi cymryd cam 'nôl a sylweddoli faint o bobl sydd wedi dod mewn i'r canolbarth, a pha mor gloi.
"Mae'n rhaid i ni edrych i'r dyfodol nawr, a rhoi amser i'r bobl yma iddyn nhw gael dod 'nôl i'r canolbarth eto i weld y byd natur a phopeth sydd gyda ni sydd ddim mewn llefydd eraill.
"Mae'n rhaid i ni ddechrau gwerthu hynny yn well nawr a marchnata er mwyn cadw'r bobl yma yn y canolbarth a gwneud yn siŵr eu bod nhw'n dod 'nôl dro ar ôl tro."
Dyma'r amser i rai fentro i fyd busnes am y tro cyntaf, ar ôl gweithio ar y prosiect ers pum mlynedd, mae tŷ gwyliau newydd Huw a Manon Evans yn barod.
Yn ôl Mr Evans, mae "pob busnes yn gorfod cychwyn yn rhywle".
"Digwydd bod, mae eleni wedi bod yn flwyddyn dda gan fod cymaint o alw ond falle mai llacio fydd pethau mewn blynyddoedd i ddod," meddai.
"Mae fyny i ni werthu Cymru - yr adnoddau, y môr a'r mynydd.
"Mae Dyffryn Nantlle newydd gael ei ddynodi yn ardal dreftadaeth y byd a dwi'n gobeithio y bydd pethau felly yn helpu i ddal i gadw pobl i ddod yma."
Mae cwmni Dioni y cynrychioli rhyw 160 o dai gwyliau ar draws Cymru. Yn ôl y perchennog, Gwion Llwyd, mae ffigyrau'r flwyddyn nesaf yn dangos "twf o 20% ar eleni yn barod".
"Dwi'n meddwl bod hi'n bwysig i ni gymryd mantais ar y cyfle yma," meddai.
"Mae'n bwysig ein bod ni fel cymunedau yn cymryd gafael ar y diwydiant ac yn cymryd perchnogaeth ohono fo.
"Mae'n rhaid i ni siapio'r diwydiant i siwtio beth ydyn ni eisiau gwneud ohono fo."
Swyddi gwag
Fe ddaw prysurdeb twristiaeth â'i heriau hefyd, yn sicr yn nhermau staffio.
Mae nifer o fusnesau mewn ardaloedd fel Dinbych-y-pysgod, Porthmadog, Cei Newydd a Chaernarfon yn gorfod cynnig bwydlenni cyfyngedig neu agor am lai o oriau oherwydd y prinder staff.
Eto i gyd, maen anodd cynllunio i'r dyfodol os fydd nifer yr ymwelwyr yn gostwng eto.
Yn ôl Cymdeithas Letygarwch Prydain mae 200,000 o swyddi gwag o fewn y sector, sy'n golygu bod 10% o holl swyddi'r maes yn wag.
Daw awgrym gan Nerys Fuller-Love o Ysgol Fusnes Prifysgol Aberystwyth bod y cyflogau is mewn ardaloedd gwledig yn gwneud pethau'n waeth.
"Beth sy'n mynd i ddigwydd ydy chwyddiant - mae busnesau yn mynd i orfod talu mwy o gyflogau i ddenu staff," meddai.
"Hefyd, mae pobl oedd yma dros dro wedi mynd 'nôl i Ewrop achos Brexit felly mae llai o bobl yn chwilio am swyddi.
"Mae rhai yn dal ar y cynllun ffyrlo hefyd, felly dydy'r rheiny ddim yn chwilio am waith.
"Dwi'n meddwl ei bod hi'n gallu bod yn fwy anodd denu staff mewn ardaloedd gwledig am fod llai o bobl, ond hefyd mae'r cyflogau'n llawer iawn is."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Awst 2021
- Cyhoeddwyd13 Awst 2021
- Cyhoeddwyd31 Mai 2021