Y Gynghrair Genedlaethol: Stockport 2-1 Wrecsam
- Cyhoeddwyd
Colli oedd hanes Wrecsam yn erbyn Stockport County er iddyn nhw fod ar y blaen am dros hanner y gêm.
Cafodd Wrecsam y dechrau gorau bosib ym Mharc Edgley wedi i Paul Mullin sgorio chwip o gôl rhyw funud wedi'r gic gyntaf.
Cysylltodd â phêl hir gan y golwr Rob Lainton o ben arall y cae a'i chicio dros ben golwr y gwrthwynebwyr, Ethan Ross i'r rhwyd.
Roedd angen arbedion gwych gan Ross hanner ffordd drwy'r hanner cyntaf i atal Mullin rhag sgorio ddwywaith eto.
Fe welodd Mullin gerdyn melyn ym munudau ychwanegol y 45 munud cyntaf, ac roedd yn sgôr yn parhau'n 0-1.
Ond fe wnaeth peniad Paddy Madden o gic gornel ddod â'r sgôr yn gyfartal yn fuan wedi'r egwyl, ac fe sicrhaodd yr eilydd, Ryan Rydel y fuddugoliaeth i'r tîm cartref wedi 80 o funudau, yn fuan wedi iddo ddod i'r maes.