'Mae Llafur angen polisïau radical i ennill etholiad'

  • Cyhoeddwyd
Beth Winter AS
Disgrifiad o’r llun,

Mae cecru mewnol "wedi bod yn gysgod" dros gynhadledd flynyddol y blaid, medd AS Cwm Cynon, Beth Winter

Mae Aelod Seneddol Llafur Cymru'n wedi mynegi pryder ynghylch siawns y blaid o ennill yr etholiad cyffredinol nesaf oherwydd diffyg "polisïau radical, blaengar".

Fe wnaeth Beth Winter feirniadu arweinydd Llafur, Syr Keir Starmer gan ddweud ei fod yn ymddangos yn pellhau o addewidion a wnaeth yn ystod yr ornest am yr arweinyddiaeth yn 2020.

Dywedodd ei chyd-AS Llafur, Stephen Kinnock mai nod cynhadledd flynyddol y blaid yw "dangos bod Llafur o ddifri ynghylch bod yn blaid llywodraethu."

Yn ôl Mr Starmer bydd y gynhadledd yn Brighton yn canolbwyntio ar yr economi, swyddi, y GIG, a newid hinsawdd.

Ond mae ffrae dros reolau mewnol y blaid wedi arwain at anghydfod rhwng yr arweinydd ac aelodau adain chwith.

Mae cynlluniau i gael coleg etholiadol yn lle'r system un-aelod-un-bleidlais wedi cael rhoi o'r neilltu, ond bydd aelodau'n pleidleisio ar becyn llai dadleuol o gynigion yn y gynhadledd ddydd Sul.

Syr Keir Starmer
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Syr Keir Starmer mai'r awydd yw "edrych tuag allan yn hytrach na thrafod ymysg ein gilydd"

Wrth siarad ar raglen BBC Politics Wales, dywedodd Syr Keir Starmer: "Fy mhrif bwrpas ar fater y rheolau, yn syml, yw sicrhau bod ein plaid Lafur yn wynebu teuluoedd gweithiol, yn edrych tuag allan yn hytrach na thrafod ymhlith ein gilydd."

Mae AS Cwm Cynon, Beth Winter, yn aelod o'r grŵp adain chwith o fewn y blaid, y Grŵp Ymgyrch Sosialaidd.

"Mae'n wir ofid i mi, ac rwy'n anobeithio, a bod yn onest, bod cecru mewnol yn gysgod dros y gynhadledd yma a bod ymdrech i wthio newidiadau annemocrataidd i'r rheolau mewn cyfnod o argyfwng," dywedodd.

"Dylien ni fod yn canolbwyntio ar herio'r Ceidwadwyr yn hytrach na checru'n fewnol ac rwy' wirioneddol yn gobeithio wrth symud ymlaen, yn y gynhadledd, y byddwn ni'n canolbwyntio ar y polisïau trawsnewidiol, blaengar hynny mae'n rhaid eu cael.

"Rhaid uno fel plaid, ac mi wn y gallwn ni wneud hynny, a datblygu'r polisïau blaengar hynny."

'Diffyg clir'

Ar drothwy'r gynhadledd, cyhoedded Syr Keir Starmer draethawd gan amlinellu ei werthoedd a sut mae'n dymuno newid y DU.

Pan ofynnwyd ar y rhaglen a yw'n credu y gallai'r blaid ennill yr etholiad cyffredinol nesaf, dywedodd Beth Winter ei bod "yn bryderus" gan awgrymu bod y traethawd â "diffyg clir o bolisïau radical, blaengar".

Ychwanegodd: "Bu pellhau o'r addewidion y gwnaeth [Syr Keir] pan gafodd ei ethol - system dreth flaengar, codi treth ar gyfoeth, cynyddu'r dreth gorfforaeth, ail-wladoli cwmnïau nwy, trydan a dŵr, datganoli radical o bwerau drwy wledydd y DU."

Stephen KinnockFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd yna gyfres o gynigion swmpus" yn y gynhadledd, medd yr AS Stephen Kinnock

Wrth siarad ran raglen Sunday Supplement BBC Radio Wales, fe wadodd As Aberafan, Stephen Kinnock MP bod y ffrae dros reolau'r blaid yn hunan-foddhaus.

"Mae'r ffordd y mae ein plaid yn gweithredu yn danfon neges wirioneddol bwysig i'r wlad ynghylch y blaid ry'n ni mo'yn bod," meddai.

"Nod y gynhadledd hon yw dangos bod Llafur o ddifri ynghylch bod yn blaid llywodraethu a dylai pob elfen o ein rheolau adlewyrchu hynny. Dylai ddangos ein bod yn ceisio cyrraedd y wlad, yn lle proses gul.

"Os edrychwch ar yr hyn sy'n cael ei gyhoeddi yn y gynhadledd, fe welwch chi gyfres o gynigion polisi swmpus sy'n mynd i newid y wlad pan gaiff Llafur ffurfio llywodraeth."

Pynciau cysylltiedig