Pryderon wrth i fanc godi tâl ar elusennau a sefydliadau
- Cyhoeddwyd
"Mae angen i fanc yr HSBC ailystyried a pheidio cyflwyno costau newydd i'n cyfrifon banc," medd elusennau, grwpiau cymunedol a chlybiau chwaraeon ar draws Cymru.
Am dros ddegawd mae'r banc wedi caniatáu i elusennau a sefydliadau di-elw reoli eu cyfrifon am ddim cyn belled â'u bod ddim yn ennill mwy na £100,000 y flwyddyn.
Ond ym mis Tachwedd bydd yr HSBC yn cael gwared â'u cyfrif cymunedol ac yn cyflwyno cyfri banc elusennol newydd - bydd elusennau sy'n bancio gyda'r HSBC yn gorfod talu cost o £60 y flwyddyn am gadw'r cyfrif ar agor.
Dywed nifer o elusennau mai ychydig o arian sydd yn eu cyfrifon a bod y costau newydd yn ergyd.
Yn ogystal bydd tâl o 0.4% am dynnu a rhoi arian yn y cyfrif, tâl o £4 ar rodd o £1,000 a thâl o 40c am bob siec a ddefnyddir.
Bydd elusennau hefyd yn gorfod talu 1.5% pan yn codi newid mân o'r banc ar gyfer digwyddiadau codi arian ond fe fydd gwasanaethau ar-lein am ddim.
Dywed Tegwen Morris, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Merched y Wawr y bydd y newidiadau yn cael effaith "andwyol ar ganghennau".
"Mae llawer o'r cyfrifon bach â chan punt neu lai ynddyn nhw. Os chi'n tynnu £60 y flwyddyn o'r swm hynny fydd dim arian ar ôl i gynnal gweithgareddau yn y gymuned leol.
"Dwi wir yn poeni am ddyfodol sefydliadau cefn gwlad ac yn y trefi os yw hyn yn digwydd. Rwy'n bryderus hefyd am yr orfodaeth i fancio ar-lein - mae nifer fawr heb yr adnoddau digidol i wneud hynny.
"Mae angen iddyn nhw ystyried yr effaith ma' nhw'n ei gael - nid yn unig ar ganghennau Merched y Wawr ond ar y capeli, yr eglwysi - yr hyn sy'n graidd i'n cymuned leol ni."
'Parhau i gefnogi'
Dywedodd llefarydd ar ran HSBC bod y cwmni ar hyd y blynyddoedd wedi "wynebu costau ychwanegol er mwyn cwrdd ag anghenion cwsmeriaid a bod y taliadau newydd yn adlewyrchu y costau parhaol sy' 'na i gynnal a gwella cyfrifon busnes".
"Ry'n yn ymrwymedig i gefnogi elusennau a sefydliadau di-elw ar draws y DU ac yn ffyddiog bod ein cynnig yn parhau yn un cystadleuol," ychwanegodd.
"Bydd hyn yn effeithio ar sawl mudiad fel eisteddfodau, capeli, papurau bro - mae wedi bod yn ddeunaw mis anodd i'r mudiadau hyn," meddai Megan Jones Roberts, Cadeirydd Cymdeithas Eisteddfodau Cymru.
"Ma' fe'n mynd i 'neud lot o wahaniaeth - mae rhai digwyddiadau ond yn cael eu cynnal unwaith y flwyddyn ac ond yn defnyddio'r banc wythnos cyn y digwyddiad ac wythnos wedi'r digwyddiad.
"Ro'n i'n cael digon o drafferth fel o'dd hi pan yn newid swyddogion, ac yn y blaen. Mae'r eisteddfodau 'ma wedi 'neud colled yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn barod heblaw gorfod talu am hyn.
"Dyw lot o swyddogion y mudiadau hyn ddim ar-lein. Ma' nifer yn byw allan yn y wlad lle nad oes broadband.
"Mae'r banciau yn dweud bod eu gwasanaeth yn un cymunedol - mae angen iddynt edrych ar hyn eto."
Dywed gwasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol eu bod wedi cael "rhai cwynion am fanciau yn codi arian ar elusennau a sefydliadau" ond nad oedd y cwynion am un cwmni bancio yn benodol.
"Pan mae'r ombwdsmon yn cael cwynion, cynhelir ymchwiliad i bob cwyn yn unigol er mwyn sicrhau canlyniad teg a rhesymol. Bydd nifer o ystyriaethau - yn eu plith a yw'r banc wedi gweithredu yn unol â'r telerau ac amodau."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Mai 2021
- Cyhoeddwyd7 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd15 Chwefror 2019