'Gobeithio am flwyddyn goleg hollol normal'
- Cyhoeddwyd
Mae llawer o fyfyrwyr yn ei trydydd blwyddyn yn y brifysgol wedi profi bywyd cyn Covid-19, yn ystod y cyfnod clo a nawr mewn cyfnod 'ôl-covid'.
Mae Celt John yn un o rheiny, mae'n ugain oed ac yn astudio Cymraeg a Cherddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor. Dyma ei adlewyrchiad o dair blynedd anarferol yn y brifysgol.
Medi - Rhagfyr 2019
Dyma pryd ddechreuais fy nghyfnod yn y brifysgol fel glas fyfyriwr. Roedd popeth yn anhygoel; nosweithiau cymdeithasol yn cadw'r cyffro i fynd, darlithoedd yn digwydd wyneb i wyneb, medru byw bywyd fel y mynnais heb feddwl dwywaith am afiechydon a phellter cymdeithasol. Doedd gwisgo masg ddim hyd yn oed yn gysyniad rhesymol i mi ar y pwynt hwn.
Gan edrych yn ôl nawr, dwi'n synnu pa mor anwybodus a di-hid oeddem fel cymdeithas cyn i'r afiechyd gyrraedd ni yma. Hefyd, gan edrych yn ôl, teimlaf fod y tymor cyntaf hwn o 'mywyd prifysgol wedi hedfan heibio. Efallai gan fod fy mywyd cymdeithasol ac academaidd wedi bod mor brysur, na chefais lawer o gyfle i anadlu ac adlewyrchu ar y cyfnod hwn yn iawn, felly gwibiodd heibio cyn i mi droi rownd.
Ionawr - Mawrth 2020
Pan ddychwelais nôl ar ôl y Nadolig, dyma pryd wnaeth newyddion o ryw afiechyd newydd o Wuhan, Tseina, dechrau amgylchynu'r we. Er bod sôn bod y salwch wedi cyrraedd rhannau o Ewrop, doedd neb yn meddwl dim amdano. Roeddem yn paratoi tuag at Eisteddfod yr Urdd, paratoi at ein harholiadau haf ac yn boddi ym mwrlwm yr Eisteddfod Ryng-golegol.
Wedi i mi adlewyrchu ar y cyfnod hwn jest cyn y cyfnod clo, rwy'n synnu'n llwyr sut wnes i allu osgoi dal y feirws a minnau wedi teithio i Ddulyn, Caeredin, Abertawe ac Aberystwyth o fewn cyfnod o bythefnos.
Cofiaf yn ystod ein hymarfer olaf y noson cyn yr Eisteddfod Ryng-golegol yn Aberystwyth, i Lywydd UMCB ar y pryd ymgynnull ni oll at ein gilydd i ddweud wrthym gan fod yr afiechyd yn lledaenu ac yn lladd ar raddfa ddychrynllyd mai dyma fydd ein digwyddiad cymdeithasol olaf fel UMCB am y flwyddyn. Dyna rwy'n credu yw pryd wnaeth difrifoldeb y sefyllfa dechrau taro rhai ohonom. Wythnos yn ddiweddarach daeth y cyfnod clo a diwedd ar fy mlwyddyn gyntaf.
Medi - Rhagfyr 2020
Pan ddechreuais fy ail flwyddyn ym Mangor, wedi symud nôl fewn i Neuadd JMJ, roedd pethau i weld yn gwella gyda sefyllfa'r feirws. Roedd pethau yn dechrau teimlo'n debycach i beth oeddent gynt. Ond wedi ychydig o wythnosau fe wnaed y rheolau Covid yn fwy llym. Felly, roedd 90% o fy ail flwyddyn yn cynnwys fi a fy ffrindiau wedi cloi fyny yn ein fflat a cherdded lawr i Bier Bangor am ein un ffurf o 'ymarfer corff' y dydd.
Mae'n saff i ddweud roeddem yn bôrd sdiff â phob dydd yn teimlo fel Groundhog Day. Gyda darlithoedd oll ar-lein hefyd roedd hi'n anodd peidio teimlo'n ddigalon ac isel 24/7.
Yn bersonol, teimlaf ein bod yn haeddu ychydig o ad-daliad ffioedd dysgu am y cyfnod hwn gan na chawsom y profiad dysgu addawyd iddom.
Ionawr - Mehefin 2021
Gyda fy ail flwyddyn yn dod i ben, dechreuodd y canllawiau Covid lacio - oedd yn rhyddhad neis o fod yn cooped up yn JMJ yr holl fisoedd gynt. Dechreuais gael rhai darlithoedd wyneb yn wyneb hefyd fel fy modiwl perfformio unawdol a oedd yn hanfodol i fod wyneb yn wyneb.
Roedd hi'n neis gallu gweld wynebau eraill a dychwelyd i rai o'n hoff lefydd fel Tafarn y Glôb. Ond, roedd hyn oll yn rhy dda i fod yn wir. Yn ystod ein hwythnos olaf yn Neuadd JMJ, a ninnau wedi pacio yn barod i adael, aethom fel fflat am brawf Covid cyn dychwelyd i'n teuluoedd a daeth y profion yn ôl yn bositif. Er oeddwn i wedi cael un dos o'r brechiad, teimlais yn sâl iawn. Teimlais mai hwn oedd y cherry on top ar y flwyddyn roeddem wedi ei chael.
Awst 2021- Presennol
Nawr gyda'r cyfyngiadau bron wedi'u codi'n llwyr, teimlaf fod pethau fel oeddent nôl yn fy nhymor cyntaf o brifysgol dwy flynedd yn ôl. Rydym newydd gael Wythnos y Glas llwyddiannus gydag UMCB, heb unrhyw drafferthion a phob un wedi mwynhau eu hunain.
Ond wedi dweud hynny, rydym yn sicrhau i gadw i'r canllawiau sydd dal mewn grym fel gwisgo mygydau mewn siopau ac ar drafnidiaeth cyhoeddus ayyb.
Rwyf eisoes wedi cael darlithoedd wyneb yn wyneb ac mae'n deimlad od ond cyffrous hefyd i allu derbyn fy addysg yn iawn a medru cyfathrebu gyda darlithwyr a 'nghyfoedion. Gobaith pawb nawr yw y bydd pethau yn aros fel hyn am weddill y flwyddyn a gallem o'r diwedd gael blwyddyn hollol 'normal' yn y brifysgol.