Galwadau am ddiwrnod o wyliau ar Ddydd Gŵyl Dewi

  • Cyhoeddwyd
Dewi Sant

Fe fydd cynghorwyr yng Ngwynedd yn trafod cynnig i roi diwrnod o wyliau i staff ar Dydd Gŵyl Dewi mewn cyfarfod ar ddydd Iau, 7 Hydref.

Mae'r cynghorydd Plaid Cymru yn Llandderfel, Elwyn Edwards, am gyflwyno cynnig yn annog i 1 Mawrth i gael ei gydnabod fel diwrnod o wyliau swyddogol ar gyfer staff y cyngor o 2022 ymlaen.

Gall y symudiad hefyd gynyddu'r pwysau ar lywodraethau Cymru a'r DU i sefydlu diwrnod Gŵyl y Banc i ddathlu ein nawddsant.

Mae yna gefnogaeth gref yng Nghymru i greu diwrnod o wyliau cyhoeddus ar Dydd Gŵyl Dewi - yn enwedig wrth ystyried bod gan Yr Alban a Gogledd Iwerddon eisoes ddiwrnodau o wyliau ar ddyddiau eu nawddseintiau.

Fe fydd cynnig y Cynghorydd Edwards yn gofyn i Gyngor Gwynedd i ysgrifennu at lywodraeth y DU i ddatganoli'r gallu i greu gwyliau Banc, gan roi pwerau tebyg i Gymru a'r rhai sydd eisoes gan Yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Mae sawl llywodraeth yn San Steffan wedi gwrthod rhoi'r pwerau yma i Gymru er i'r Senedd bleidleisio'n unfrydol o'i blaid nôl yn 2000.

"Dylwn ddathlu nawddsant ein gwlad ac ein diwrnod cenedlaethol yn yr un ffordd ag y mae'r Alban ac Iwerddon yn dathlu eu rhai nhw," meddai Mr Edwards.

"Mae'n amser i ni ddilyn yr un llwybr, sydd hefyd yn danfon neges glir ynglŷn â'n statws ni fel gwlad unigryw.

"Dylai San Steffan adael i Lywodraeth Cymru benderfynu, ond o safbwynt Cyngor Gwynedd, dwi'n deall bydd ffactorau ynglŷn â chost angen eu hystyried cyn rhoi diwrnod o wyliau i staff.

"Ond yn bendant dylwn dderbyn yr un hawliau a'n cefndryd Celtaidd," ychwanegodd.

Bydd y cynnig yn cael ei thrafod yn ystod cyfarfod y cyngor llawn ar ddydd Iau, 7 Hydref.

Pynciau cysylltiedig