Euog o dwyllo menyw 100 oed yr oedd yn gofalu amdani

  • Cyhoeddwyd
Rhian Horsey
Disgrifiad o’r llun,

Fe gafwyd Rhian Horsey yn euog o saith cyhuddiad o dwyll.

Mae dynes wedi ei chael yn euog o dwyllo dynes oedrannus yr oedd hi'n cael ei chyflogi i ofalu amdani.

Fe weithiodd Rhian Horsey, 55, i Iris Sansom, sydd bellach yn 100 oed, rhwng 2003 a 2017.

Clywodd Llys y Goron Caerdydd ei bod wedi "cymryd mantais" o Mrs Sansom drwy ei "thwyllo'n systematig."

Kathryn Taylor, merch Mrs Sansom, aeth at yr heddlu yn 2017 ar ôl gwirio datganiadau banc.

Roedd symiau sylweddol o arian wedi mynd o gynilion ei mam gyda nifer o sieciau wedi'u hysgrifennu at Rhian Horsey.

Clywodd y llys fod Mrs Horsey yn "hollol dryloyw" ynglŷn â beth oedd pwrpas yr arian.

Rhyddhau ecwiti

Fe gafodd arian ei drosglwyddo o gyfrif cymdeithas adeiladu Mrs Sansom i'w chyfrif banc cyn i'r arian wedyn cael ei dynnu o'r banc dros y cownter ac o beiriannau twll yn y wal.

Dywedodd Jodie-Jane Hitchcock, ar ran yr amddiffyniad, fod pob un o'r trafodion yn "ddilys" ac wedi'i wneud gyda chaniatâd a bendith Mrs Sansom.

Yn ôl Mrs Horsey, o Bontyclun, roedd yr arian yn mynd ar gostau pob dydd, pethau fel ei chyflog, biliau gofal, siopa a garddio.

Roedd manylion cynllun i ryddhau ecwiti o gartref Mrs Sansom hefyd wedi cael eu hanfon at ei chyfreithiwr.

"Doedd dim yn gyfrinachol am y trefniadau rhwng Mrs Horsey a Mrs Sansom," meddai Ms Hitchcock.

Mewn tystiolaeth fideo gafodd ei recordio yn 2017, dywedodd Mrs Sansom nad oedd hi "yn dda iawn gyda materion ariannol".

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr achos ei glywed yn Llys y Goron Caerdydd.

Clywodd y llys ei bod ei chenhedlaeth yn hoffi cael eu harian gartref.

"Dyna beth roedd Iris eisiau ei wneud," meddai Mrs Horsey.

"Nid fy lle i oedd cwestiynu hynny, a phe bawn i wedi gwneud, fyddai hi ddim wedi gwrando."

'Cymryd mantais' o berthynas agos

Clywodd y llys fod Rhian Horsey "yn byw y tu hwnt i'w hincwm".

Roedd hi ar ei hôl hi gyda'i thaliadau morgais ond fe wariodd hi £41,000 ar fordeithiau.

Fe wariodd hi £15,000 ar wyliau mewn bythynod ar lan y môr gydag arian hefyd yn cael ei wario ar westai, y theatr, gemwaith a bwyta allan.

Gwadodd fod hynny yn anghyffredin gan fod hynny, meddai, yn "rhywbeth ry'n ni wedi'i wneud erioed".

Honnodd yr erlyniad fod Mrs Horsey wedi manteisio ar ba mor fregus oedd Mrs Sansom.

"Roedd natur y berthynas yn un o ymddiriedaeth," meddai James Wilson, ar ran yr erlyniad.

"Roedd Iris Sansom yn ymddiried yn llwyr yn Rhian Horsey."

Dywedodd tyst arall wrth y rheithgor fod y ddwy yn "debycach i fam a merch."

Rhwng 2010 a 2013 fe gafodd £130,000 ei godi o gynilion Mrs Sansom.

Talodd y cynllun rhyddhau ecwiti randaliadau o £67,807, £29,965, £49,965 a £49,965.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd tystion fod gan Rhian Horsey ac Iris Sansom berthynas agos.

Pan ddaeth pob taliad, roedd £500 yn cael ei godi o'r banc bron bob dydd.

Erbyn 2017 roedd bron yr holl arian wedi mynd.

£84,000

Rhwng 2011 a 2017 fe gafodd cyfanswm o £226,300 ei godi o gyfrif banc Iris Sansom.

Fe gafodd 74 siec gwerth cyfanswm o £55,769 eu sgwennu i Rhian Horsey.

Yn ystod yr un cyfnod fe gafodd £84,000 ei dalu i mewn i gyfrif banc Mrs Horsey.

Honnodd fod yr arian wedi dod o'i busnes gwarchod plant.

Ond clywodd y llys nad oedd hi'n bosib i'r incwm o'r gwaith gyfateb i faint y taliadau i'r banc.

"Roedd lefel yr arian gafodd ei gymryd o gyfrif Iris Sansom y tu hwnt i'w chostau byw hi a thaliadau dilys i Rhian Horsey."

"Fe wnaeth Rhian Horsey ddwyn o Iris Sansom ac fe wnaeth hi ei hecsbloetio er ei budd ei hun," meddai'r erlynydd James Wilson.

Roedd Rhian Horsey yn gwadu saith cyhuddiad o dwyll.

Ar ôl i'r rheithgor ei chael hi yn euog o bob cyhuddiad, dywedodd y Cofiadur Mark Cotter QC y byddai'n ei dedfrydu hi ddydd Llun.

Pynciau cysylltiedig