Codiad cyflog £15,000 i brif weithredwr yn 'sarhaus'

  • Cyhoeddwyd
Swyddfa Cyngor CeredigionFfynhonnell y llun, Ian Capper/Geograph

Mae codiad cyflog o 14% i brif weithredwr Cyngor Ceredigion yn "sarhaus", yn ôl undeb.

Cafodd y cynnydd o £15,000 ei gymeradwyo gan y cyngor, gan godi cyflog y prif weithredwr i £130,000.

Dywedodd undeb Unsain bod y cynnydd yn sarhad i weithwyr eraill, yn cynnwys staff gofal, a gafodd gynnig o 1.75% o godiad cyflog.

Mae Cyngor Ceredigion yn dweud bod rhaid i staff gael eu talu yn unol â'u dyletswyddau, a bod rhaid i gyflogau fod yn gystadleuol.

'Syfrdanol'

Cafodd staff cyngor dros Gymru, yn cynnwys glanhawyr, llyfrgellwyr a chasglwyr sbwriel, gynnig o godiad cyflog o 1.75%, gyda'r rhai ar y cyflogau isaf yn cael cynnig o 2.75%.

Ond fe gafodd y cynnydd i brif weithredwr Ceredigion ei gymeradwyo gan gynghorwyr, ar ôl cael sêl bendith y Panel Annibynnol ar Gydnabyddiaeth Ariannol.

Dywedodd Alison Boshier o Unsain bod y cynnydd i'r prif weithredwr wedi "syfrdanu" staff sydd wedi "sicrhau bod gwasanaethau hanfodol yn parhau gydol y pandemig".

Ychwanegodd bod y codiad cyflog yn amddiffyn y pennaeth tra bod staff eraill yn wynebu cynnydd mewn prisiau ynni, a bod angen i'r cyngor ystyried a oedd yn "hybu tegwch" o fewn y sir.

'Adlewyrchu dyletswyddau disgwyliedig'

Yn ôl y Gwasanaeth Gohebu Democratiaeth Leol fe fydd y cyflogau uchaf yn cynyddu o'r £106,077 presennol i rhwng £121,618-130,108.

Dywedodd Cyngor Ceredigion bod adolygiad o gyflogau wedi dechrau yn 2017, ac wedi cael gwared ar sawl swydd gyda chyflogau uchel.

Ychwanegodd Ray Quant, dirprwy arweinydd y cyngor, bod "dyletswydd i'n staff i sicrhau eu bod yn derbyn cyflogau yn unol â'u gwaith, ac mae hyn yn wir hefyd am y prif weithredwr".

Dywedodd bod y penderfyniad yn "adlewyrchu dyletswyddau disgwyliedig ac yn gystadleuol gydag awdurdodau lleol eraill Cymru".