Chwaraewyr newydd rhanbarthau Cymru
- Cyhoeddwyd

Bydd rhai wynebau newydd a rhai enwau mawr yn dod i mewn i rygbi Cymru y tymor nesaf gyda'r pedwar rhanbarth wedi dod â chwaraewyr ffres i mewn.
Felly dyma'r rhestr lawn o'r llofnodion mae'r timau rhanbarthol wedi'u gwneud, gan gynnwys naw o chwaraewyr rhyngwladol.

Rygbi Caerdydd
Rhys Priestland (Caerfaddon)
Ymunodd Priestland â Chaerfaddon o'r Scarlets yn 2015, ac ef oedd prif sgoriwr pwyntiau Uwch Gynghrair Lloegr y tymor diwethaf.

Cafodd Rhys Priestland ei gap rhyngwladol cyntaf yn erbyn Yr Alban ym mis Chwefror 2011
Mae'r chwaraewr 34 oed wedi ennill 50 cap i Gymru ac roedd yn rhan o'r garfan enillodd y Gamp Lawn 2012.
Ar ôl gadael y Scarlets i ymuno â Chaerfaddon, mae Preistland nôl yng Nghymru, y tro yma gyda rhanbarth y brifddinas.
Matthew Screech (Dreigiau)
Roedd arwyddo Matthew Screech o'r Dreigiau yn dipyn o gamp, gan ei fod wedi bod yn un o'r perfformwyr mwyaf cyson yn y PRO14 yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gan ddarparu gwaith caled ar y cae bob wythnos.
Doedd dim gormod o recriwtio gan Gaerdydd, gyda'r prif ffocws wedi bod ar gadw dynion allweddol fel Jarrod Evans, Tomos Williams, Willis Halaholo ac Owen Lane.

Y Derigiau
Mae rhanbarth Gwent wedi parhau i wneud pethau'n dawel o ran recriwtio dros y mis diwethaf, gan gryfhau'r garfan.
Will Rowlands (Wasps)
Yr un mawr i'r Dreigiau oedd arwyddo'r cawr o ail-reng, Will Rowlands o Wasps, bargen yr oeddent wedi bod yn gweithio arni ers amser maith.

Yn 6'8" ac yn 19st 5lbs mae Will Rowlands yn dod a dipyn o nerth i sgrym y Dreigiau y tymor yma
Mae Will Rowlands yn llenwi'r bwlch gafodd ei greu yn dilyn ymadawiad Screech. Bydd nawr yn ail-uno â Ben Carter, y ddau a gychwynnodd ochr yn ochr â'i gilydd ym mhrofion prawf Cymru dros yr Haf.
Mesake Doge (Brive)
Aki Seiuli (Glasgow)
Ioan Davies (Rygbi Caerdydd)
Taylor Davies (Scarlets; ar fenthyg)
Mae digon o brofiad hefyd gyda Mesake Dogem sydd wedi cynrychioli Fiji, a'r cyn-Highlander Aki Seiuli yn dod â digon o brofiad propio. Tra bod y bachwr chwim Taylor Davies a'r cefnwr dawnus Ioan Davies yn ddau dalent ifanc o Gymru i wylio allan amdanynt.
Cory Allen (Gweilch)
Nid yw'r chwaraewr 28 oed, sydd wedi ennill cap dros Gymru, wedi chwarae ers dioddef anaf difrifol i'w ben-glin yn erbyn Ulster ym mis Medi 2019.

Cory Allen yn erbyn Wrwgwai, Cwpan y Byd 2015
Mae Allen wedi dioddef anafiadau mawr drwy gydol ei yrfa rygbi, ond daeth ei uchafbwynt pan sgoriodd hat-tric yng ngêm agoriadol Cymru yng Nghwpan y Byd 2015 yn erbyn Wrwgwai.


Y Gweilch
Mae cartref y Gweilch wedi'w ailenwi'n Stadiwm Swansea.com, ac mae'r rhanbarth wedi recriwtio'n gryf iawn dros y misoedd diwethaf.
Tomas Francis (Caerwysg)
Mae Tomas Francis o Gaerwysg yn hwb gwirioneddol i'r rhanbarth ac i rygbi Cymru, gan y bydd y prop pen tyn 57 cap yn gallu parhau i chwarae rygbi rhyngwladol.

Ymunodd Tomas Francis ag Exeter Chiefs yn 2014, ac y tymor yma yw'r cyntaf i'r chwaraewr 29 oed gynrychioli rhanbarth Cymreig
Alex Cuthbert (Caerwysg)
Mae Alex Cuthbert yn gymwys unwaith eto i chwarae dros Gymru ar ôl ymuno â Francis o Sandy Park. Dangosodd ei fod yn dal i fod yn arf nerthol ar yr asgell gyda'i berfformiadau ar ddiwedd tymor diwethaf.
Jac Morgan (Scarlets)
Mae siawns da y bydd Jac Morgan yn curo ar ddrws Wayne Pivac cyn hir os bydd yn parhau â'i berfformiadau yn y rheng-ôl. Bydd o'n cystadlu gyda Justin Tipuric am cris rhif saith.
Michael Collins (Highlanders)
Mae Michael Collins, sydd â chymhwyster i chwarae i Gymru, yn un arall a allai fod yn gymwys i'r llwyfan rhyngwladol ar ôl dod drosodd o Seland Newydd am yr ail dro yn y wlad hon ar ôl creu argraff o'r blaen gyda cyfnod gyda'r Scarlets.

Roedd Michael Collins yn chwarae i'r Scarlets yn nhymor 2015-16
Elvis Taione (Caerwysg)
Bydd recriwtio trydydd chwaraewr o Gaerwysg- y cyn-filwr o Tonga Elvis Taione - yn darparu profiad rhyngwladol tymor o hyd yn y bachwr.
Osian Knott (Scarlets)
Jack Regan (Highlanders)
Ben Warren (Rygbi Caerdydd)

Scarlets
Stori o ddychwelyd nôl i Lanelli yw hi i dri chwaraewr.
WillGriff John (Sale)
O ran y prop WillGriff John, sydd wedi arwyddo o Sale, bydd o'n gobeithio y bydd bod ar bridd cartref yn helpu ei siawns o sicrhau'r cap cyntaf hwnnw o'r diwedd.
Scott Williams (Gweilch)
Mae Scott Williams yn dychwelyd i'r rhanbarth lle ddechreuodd ei yrfa. Ar ôl cyfnod gyda'r Gweilch a llawer o anafiadau mae ganddo ddigon i'w gynnig, ac wedi profi hyn dydd Sadwrn diwethaf yn sgorio ar ei gêm gyntaf nôl.

Mae Scott Williams wedi cynrychioli Cymru 58 o weithiau ers ei gap cyntaf yn 2011
Dim ond 30 oed ydy Scott Williams ac mae'n chwaraewr o'r safon uchaf ar ei ddiwrnod, gyda 58 o gapiau i Gymru i'w enw.
Corey Baldwin a Tom Price (Caerwysg)
Mae'r cyd-ganolwr Corey Baldwin hefyd wedi dychwelyd ar ôl tymor a dreuliodd yng Nghaerwysg, a dyna lle mae'r clo Tom Price yn symud o wrth iddo gychwyn ar ei ail dro yng ngorllewin Cymru.
Tomás Lezana (Western Force)
Bydd yn rhaid i gefnogwyr y Scarlets aros am ychydig i weld Tomás Lezana ar waith gan ei fod yn rhan o garfan Yr Ariannin ym Mhencampwriaeth Rygbi sy'n mynd ymlaen tan ddechrau mis Hydref.
Bydd gemau rhanbarthau Cymru yn cael eu darlledu ar BBC Radio Cymru 2 drwy gydol y bencampwriaeth.