Timau newydd, rheolau newydd... tymor rygbi newydd

  • Cyhoeddwyd
rhanbarthau

Yn sgil pandemig Covid-19 roedd y tymor rygbi'r llynedd, i'r clybiau a'r tîm cenedlaethol, yn un go wahanol - gemau wedi eu canslo, chwaraewyr mewn bybl a gemau heb dorfeydd.

Ond gyda'r tymor newydd yn dechrau ar 24 Medi bydd y torfeydd yn ôl, a hynny i weld cystadleuaeth newydd - y Bencampwriaeth Rygbi Unedig.

Pwy yw'r timau? Beth fydd y strwythur? A beth yw'r disgwyliadau i ranbarthau Cymru? Gohebydd rygbi BBC Cymru, Cennydd Davies sy'n datgelu'r cyfan.

A dyma ni felly ar drothwy tymor domestig newydd sbon ond yn dymor sydd wedi eu hail wampio'n llwyr wedi cyfres o newidiadau pellgyrhaeddol dros yr haf.

Mwy o dimau De Affrica

Na, nid y Pro14 mohono mwyach wrth i bresenoldeb pedwar o dimau De Affrica greu'r Bencampwriaeth Rygbi Unedig ar ei newydd wedd. Nawr rhaid cyfadde' nad yw'r enw o bosib wedi dal y dychymyg hyd yma a does dim dal pa mor unedig yw'r gefnogaeth tu ôl i'r gystadleuaeth newydd.

Mae'r ymateb ymhlith nifer o wybodusion a chefnogwyr dal yn llugoer i ddweud y lleia a'r cysyniad o gynnal cystadleuaeth rhwng pump o wledydd ar draws dwy hemisffer yn un sy'n anodd i'w werthu. Mae'r amheuon hynny am bresenoldeb De Affrica yn ddealladwy - rydyn ni wrth gwrs wedi bod fan hyn o'r blaen a thri thymor y Cheethas a'r Kings yn rhai i'w anghofio a'r ddau dîm yn gyson yn cael eu sgubo o'r neilltu.

Y gwahaniaeth mawr wrth gwrs yw mai timau gwanaf De Affrica oedd y rheiny - mi fydd y Bulls, Sharks, Lions a'r Stormers yn profi gymaint yn fwy o her ac yn gallu ychwanegu rhyw ddimensiwn a bywyd newydd i gystadleuaeth oedd yn dechrau ei chael hi'n anodd dal y dychymyg.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Lukhanyo Am oedd un o sêr y Springboks yn y gyfres yn erbyn Y Llewod dros yr haf, ac mi fydd yn wynebu rhanbarthau Cymru eleni fel rhan o garfan y Sharks o Durban

Ond, does dim dwywaith bod y penderfyniad yn rhywfaint o risg, hynny yw, mae'r un anawsterau teithio i'w goresgyn, Covid a cwarantin yn debygol o darfu ar sail y sefyllfa bresennol a'r broblem mwya' o bosib yw'r ffaith bod mwyafrif o chwaraewyr gorau De Affrica yn chwarae yn Lloegr, Ffrainc a thu hwnt, yn hytrach nag i'r pedwar tîm fydd yn ymuno.

Y gobaith yw bydd chwaraewyr megis Cheslin Kolbe, Faf de Klerk a Willie le Roux ynghlwm â'r gystadleuaeth yn y dyfodol agos, ond am y tro diwedd y gân yw'r geiniog!

Ond er gwaetha'r pryderon dwi'n grediniol roedd yr amser wedi dod i fentro ac arbrofi er mwyn ceisio apelio i gynulleidfa ehangach.

Bydd yna strwythur newydd eleni hefyd, un adran fydd eto yn hytrach na dwy a'r cyfan i'w chwarae dros ddeunaw rownd. Mae'r penderfyniad i beidio llwyfannu gemau yn ystod cyfnodau rhyngwladol i'w gymeradwyo hefyd - yn or-aml yn y gorffennol mae gemau wedi bod yn eilradd ac yn ddibwys ac o'r herwydd wedi effeithio ar hygrededd y gystadleuaeth yn y pen draw.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Leinster yn ennill Pencampwriaeth y PRO14 ar ddiwedd tymor 2020-21. Leinster yw'r tîm mwyaf llwyddiannus yn hanes y gystadleuaeth (wyth pencampwriaeth), mae'r Gweilch wedi ei ennill ar bedair gwaith, a'r Scarlets ar ddwy achlysur

Ond yr hyn fydd o bosib yn corddi'r dyfroedd yn fwy na dim byd arall yw'r rheolau newydd fydd yn cael ei arbrofi tymor yma. Mae yna pum newid rheol i gyd - rhai yn ymwneud â diogelwch chwaraewyr ond eraill gyda'r ffocws ar annog chwarae creadigol, anturus a deniadol.

Y mwyaf pellgyrhaeddol ohonyn nhw i gyd yw'r 50:22, sydd eisoes wedi ei dreialu yn Seland Newydd ac Awstralia. Bydd cyfle i dimau gicio am diriogaeth o hanner ei hunain i ddwy ar hugain y gwrthwynebwyr ac os yw'r bêl yn adlamu dros yr ystlys o fewn y 22 yna fydd y tîm hwnnw yn hawlio'r lein... cymhleth, wel mi fydd yn cymryd rhai wythnosau mae'n siŵr i ddod yn gyfarwydd â'r rheol a bydd hi yn sicr ddim at ddant pawb.

Ond y bwriad yw cyflymu'r gêm a chreu adloniant, ac wedi cyfres hynod siomedig y Llewod dros yr haf byddai neb yn anghytuno â hynny!

Dwayne wrth y llyw

O safbwynt rhanbarthau Cymru mae'r blynyddoedd diwethaf (gan eithrio llwyddiant y Scarlets yn 2017) wedi bod yn rhai o dangyflawni. Ond does dim argoel o'r sefyllfa yn newid dros nos.

Er bod penodiad Dwayne Peel fel eu prif hyfforddwr wedi creu cyffro ar Barc y Scarlets, mi fydd hi'n dipyn o fedydd tân i gyn-fewnwr Cymru wrth iddo gael ei benodi'n brif hyfforddwr am y tro cyntaf.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Dwayne Peel yn ffefryn ar Barc y Strade o 2000 i 2008, ac ef bellach yw prif hyfforddwr y rhanbarth

Mae gymaint o fynd a dod wedi bod ar y Barc yr Arfau dros y blynyddoedd mae'r cylch bellach wedi troi'n gyflawn wrth i Dai Young baratoi ar gyfer ei dymor llawn cyntaf wrth y llyw ers ail ymuno. Ydy, mae enw'r Gleision bellach wedi mynd ond mae dal mynydd i'w ddringo i Rygbi Caerdydd.

Dyw'r sefyllfa ddim yn annhebyg ar Faes Rodney Parade na chwaith ar y Liberty a diddorol fydd gweld pwy fydd yn mynd a hi yn y gêm ddarbi gyntaf eleni rhwng y Gweilch a'r Dreigiau ddydd Sul.

Bydd gemau rhanbarthau Cymru yn cael eu darlledu ar BBC Radio Cymru 2 drwy gydol y bencampwriaeth.

Pynciau cysylltiedig