Dyn wedi'i arestio yn dilyn tân yn Llanfair-ym-Muallt

  • Cyhoeddwyd
A483 ger Lion Lane yn Llanfair-ym-MualltFfynhonnell y llun, Google

Mae dyn wedi cael ei arestio ar amheuaeth o losgi eiddo'n fwriadol yn Llanfair-ym-Muallt, Powys.

Digwyddodd y tân mewn bloc o fflatiau ar Lion Lane ychydig wedi hanner nos fore Sul.

Cafodd yr adeilad tri llawr ei losgi'n llwyr, a bu'n rhaid rhoi cymorth i un person adael, ond ni chafodd unrhyw un eu hanafu.

Mae'r dyn 66 oed gafodd ei arestio yn parhau yn y ddalfa.

Dywedodd yr heddlu nad ydyn nhw'n chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r digwyddiad, a dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth berthnasol gysylltu â nhw.