Cynnig brechlyn i bob plentyn 12-15 oed 'cyn hanner tymor'
- Cyhoeddwyd
Mae disgwyl i bob plentyn 12 i 15 oed yng Nghymru gael cynnig brechlyn Covid erbyn diwedd y mis, yn ôl y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan.
Daw hynny wrth i'r rhaglen frechu ar gyfer plant yn eu harddegau fwrw ymlaen o ddifrif yr wythnos hon, gyda tharged o gynnig pigiad i bawb erbyn hanner tymor mis Hydref.
Fe fydd y rhan fwyaf o'r brechiadau'n cael eu rhoi mewn canolfannau brechu, ac mewn rhai ardaloedd bydd ysgolion hefyd yn cael eu defnyddio.
Mae rhai o'r plant mwyaf bregus eisoes wedi derbyn y brechlyn.
Peryglon Covid hir
Daw hynny wrth i'r gweinidog iechyd ddweud fod "rhai astudiaethau wedi dangos bod lle i gredu bod un o bob saith plentyn sydd wedi'i heintio â'r feirws yn datblygu Covid hir".
"Brechlynnau yw'r ffordd orau o hyd o'n diogelu rhag y feirws. Maen nhw'n helpu i atal niwed a lleihau lledaeniad Covid-19," meddai Ms Morgan.
"Mae'n bwysig bod y plentyn a'r rhiant yn gallu gwneud penderfyniad ar sail gwybodaeth ac rydyn ni wedi darparu adnoddau i blant a phobl ifanc a'u rhieni i'w cynorthwyo.
"Rwy'n annog rhieni, gwarcheidwaid, plant a phobl ifanc i drafod y brechlyn gyda'i gilydd."
Ychwanegodd Dr Gill Richardson, y Dirprwy Brif Swyddog Meddygol ar gyfer Brechlynnau, fod manteision brechu "cynifer o bobl â phosib" eisoes yn amlwg.
"Ar ôl ystyried y dystiolaeth yn ofalus, fe wnaeth pedwar Prif Swyddog Meddygol y DU argymell brechu plant iach, 12 i 15 mlwydd oed, ar ôl ymgynghori ag arbenigwyr megis Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant," meddai.
"Daethant i'r casgliad bod y manteision iechyd a nodwyd gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI), ynghyd â'r manteision ychwanegol o ran llai o darfu ar addysg a lleihau'r effeithiau ar iechyd meddwl, yn golygu y dylid cynnig brechiadau.
"Bydd plant a'u teuluoedd yn cael gwybodaeth gefndirol, yn ogystal â'u gwahoddiad drwy lythyr, fel y gallan nhw benderfynu ar sail tystiolaeth a ydyn nhw am gael y brechlyn ai peidio."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd30 Medi 2021
- Cyhoeddwyd29 Medi 2021